Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , DAVID JOSHUA ( 1877 - 1945 ), dramodydd ; g. yn Troed-y-rhiw , Llanwenog , 26 Rhag. 1877 yn fab i John Davies a Mary (g. Evans ) ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Mydroilyn ac ysgol ‘tutorial’ Ceinewydd . Bu bron â cholli ei olwg yno, ond wedi'i adfer aeth yn brentis i siop ‘ironmonger’ yn Abertawe . Yn 1910 cymerodd dyddyn, ac yn ddiweddarach y siop a'r swyddfa bost , ym Mhont-rhyd-y-groes , lle treuliodd weddill ei oes. Pr. ag Annie Davies o Geinewydd yng nghapel St. Paul , Aberystwyth , 6 Ebr. 1904 a chodi teulu o bedwar o blant. Daliodd swyddi pwysig yn ei enwad ( Y Wesleaid ) a'r cyngor sir lle daeth yn gadeirydd y pwyllgor addysg . Ysgrifennodd lawer i'r wasg leol ar bynciau gwleidyddol, ond ei fri mwyaf oedd ennill y wobr yn Eist. Gen. Castell-nedd 1918 am ei ddrama Maes y Meillion . Erys ei ddrama Owen Glyndŵr heb ei chyhoeddi. Bu f. 8 Ion. 1945 a chladdwyd ef yng Ngheinewydd .

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan ei ferch, Mrs. J. T. Owen ;
  • gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Gwilym Richard Tilsley, (1911-97), Prestatyn