BERGAM, Y (14eg ganrif), bardd, daroganwr

Enw: Bergam, Y
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, daroganwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Raymond Wallis Evans

Fe'i gelwir yn y llawysgrifau 'Y Bergam o Faelor ' ac mewn stent a wnaed i'r Tywysog Du yn 1352 cyfeirir at 'Gafael mab Bergam' wrth sôn am Bennant yn Eifionydd. Yr oedd ei ddaroganau'n un o ffynonellau'r cywyddau brud. Gweler Enid Griffiths, Early vaticination in Welsh (1937).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.