YOUNG, JAMES JUBILEE (1887 - 1962), gweinidog (B)

Enw: James Jubilee Young
Dyddiad geni: 1887
Dyddiad marw: 1962
Priod: Mya Young (née Jones)
Rhiant: Eunice Young
Rhiant: Thomas Young
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd 15 Mai 1887 (blwyddyn Jiwbili y frenhines Victoria) yn fab Thomas ac Eunice Young (brodyr iddo oedd y Parchedigion Jabes, Glasnant ac Owen Young). Ganwyd ef ym Maenclochog, Penfro, ond yn Aberafan, Morgannwg, y magwyd ef, a symudodd i weithio mewn siop dilledydd yn Nhonypandy, cwm Rhondda, yn llanc ifanc. Dechreuodd bregethu yn 1906 wedi ymaelodi ym Moreia (B), Tonypandy, ac aeth i ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, y flwyddyn ganlynol. Ordeiniwyd ef yn weinidog Capel Rhondda, Pontypridd yn 1910, a bu'n bugeilio eglwysi'r Felinganol (1914), a Seion, Llanelli (1931). Ymddeolodd yn 1957. Amlygodd ei ddoniau fel pregethwr nerthol o'r dechrau cyntaf a daeth yn un o dywysogion y pulpud Cymraeg. Gwahoddid ef yn gyson i bregethu yng Nghymanfaoedd ei enwad; pregethodd yn yr oedfa Gŵyl Ddewi yn y City Temple, Llundain, yn 1922, yn y Central Hall, Lerpwl, yn 1923, a'r oedfa Gymraeg yn Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr yng Nghaerdydd, 1924. Bu'n llywydd Cymanfa Penfro, 1929, a llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, 1946. Bu farw 23 Ionawr 1962 gan adael gweddw Mya (ganwyd Jones, o Gapel Rhondda) ac un mab.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.