YORKE
,
SIMON
(
1903
-
1966
)
,
y pumed o'r enw hwn o ddisgynyddion
Simon
Yorke
(
1606
-
1682
),
groser cyfanwerthol
o
Dover
, a oedd yn daid i
Iarll Hardwicke
; g.
24 Meh. 1903
yn fab hynaf i
Philip
Yorke
(
1849
-
1922
),
Erddig, Dinb.
, a'i ail wraig
Louisa Matilda
(g.
Scott
)
. Cafodd ei addysg ym
Moorland House
,
Heswall
;
Coleg Cheltenham
; a
Choleg Corpus Christi
,
Caergrawnt
. Graddiodd yn
B.A.
mewn coedwigaeth yn
1927
. Etifeddodd
Erddig
ger
Wrecsam
yn
1922
. Bu'n
Uchel Siryf
sir Ddinbych
yn
1937
. Er iddo fod yn
lifftenant
yn y
Denbighshire Yeomanry
, pan ddaeth
Rhyfel Byd II
ymunodd fel
milwr
cyffredin yn y
North Staffordshire Regiment
. Yn unol â'i ddymuniad arhosodd fel
sapper
, heb geisio na chael dyrchafiad.
Nid oedd ei berthynas â'i denantiaid yn hapus. Gwrthodai iddynt gael trydan na theliffon yn eu ffermydd. Er nad ydoedd yn heliwr,
dilynai'r cwn hela ar gefn beic
a gwyddai bob amser ymhle yr oedd y llwynog. Cafwyd ef yn f. o
fethiant y galon
ym
Mharc Erddig
,
7 Mai 1966
, a chladdwyd ef ym mynwent
eglwys Marchwiel
. Nid oedd yn briod a bu f. yn ddiewyllys. Etifeddwyd
Erddig
gan ei frawd
Philip Scott
Yorke
(
1905
-
1976
).
Llyfryddiaeth:
-
Merlin Waterson
,
The Servants’ Hall a domestic history of
Erddig
, Llundain, 1980
(
1980
).
Awdur:
John Gwilym Jones, Wrecsam