WYNDHAM-QUIN, WINDHAM HENRY, 5ed IARLL DUNRAVEN a MOUNT-EARL (1857 - 1952), milwr a gwleidydd

Enw: Windham Henry Wyndham-quin
Dyddiad geni: 1857
Dyddiad marw: 1952
Priod: Eva Constance Aline Wyndham-Quin (née Bourke)
Plentyn: Richard Southwell Windham Robert Wyndham-Quin
Rhiant: Caroline Wyndham-Quin (née Tyler)
Rhiant: Windham Henry Wyndham-Quin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 7 Chwefror 1857 yn Llundain, mab hynaf Capten yr Anrhydeddus W. H. Wyndham-Quin (ail fab Iarll Dunraven) a Caroline, merch y Llyngesydd Syr George Tyler, Cottrell, Morgannwg. Addysgwyd ef yn Eton a'r Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst. Ymunodd â'r 16th Lancers yn 1878 a bu'n ymladd yn y rhyfel yn erbyn y Bweriaid yn 1881 pan oedd yn gysylltiedig â'r Inniskillin Dragoons. Daeth yn gapten yn 1886 a gwasanaethodd fel gweinydd cadfridog i'r Anrhydeddus Robert Bourke, ewythr ei wraig, ym Madras, hyd 1889. Bu'n adjutant gyda'r Royal Gloucester Hussars rhwng 1890 ac 1894 a chafodd ei ddyrchafu'n uchgapten yn y 16th Lancers yn 1893. Yn yr ymladd yn Ne Affrica yn 1900, soniwyd amdano mewn cadlythyrau, enillodd Fedal y Frenhines gyda thair clesbyn a'r D.S.O. Daeth yn Companion of the Bath yn 1903 a gwasanaethodd fel is-gyrnol yn y Glamorgan Imperial Yeomanry.

Etholwyd ef yn A.S. (C) dros etholaeth De Morgannwg yn 1895 pan orchfygodd A. J. Williams a pharhaodd i gynrychioli'r etholaeth hon yn y senedd hyd 1906 pan gollodd ei sedd i William Brace (Bywg. 2, 4-5). Fel gwleidydd yr oedd yn hynod foneddigaidd a chwrtais. Bu'n Uwch Siryf yn sir Kilkenny yn 1914 ac yn benllywydd gwarchodlu yn y Lines of Communication yn 1915. Yr oedd yn un o gyfarwyddwyr y Great Western Railway Company. Ym Mehefin 1926 olynodd ei gefnder Windham Thomas Wyndam-Quin fel Iarll Dunraven. Yr oedd hefyd yn Farwn Adare ac yn Is-Iarll Mount-Earl. Treuliodd lawer iawn o'i amser yng nghastell Dwn-rhefn a daeth yn gymeriad hoffus a phoblogaidd yn ne Cymru. Yr oedd yn aelod o Lys Llywodraethwyr yr Amgueddfa Genedlaethol ac fe fu'n llywydd Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr yn 1940.

Cyhoeddodd nifer o gyfrolau gan gynnwys The Yeomanry Cavalry of Gloucester and Monmouth (1898), Sir Charles Tyler, G.C.B., Admiral of the White (1912), The Foxhound in county Limerick (1919) ac A history of Dunraven Castle (1926).

Priododd, 7 Gorffennaf 1885, â'r Fonesig Eva Constance Aline Bourke, merch 6ed Iarll Mayo. Bu hi farw 19 Ionawr 1940. Bu iddynt ddau fab a merch. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn ei gartref Adare Manor, Limerick. Bu farw 23 Hydref 1952 yn ei gartref yn Limerick yn 95 oed. Ei etifedd oedd ei fab hynaf Richard Southwell Windham Robert, Is-iarll Adare (1887 - 1965).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.