WOOD, MARY MYFANWY (1882 - 1967), cenhades yn Tsieina, 1908-1951

Enw: Mary Myfanwy Wood
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1967
Rhiant: Hannah Wood
Rhiant: Richard Maldwyn Wood
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cenhades yn Tsieina, 1908-1951
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awduron: Kenneth Emlyn Jones, Ioan Wyn Gruffydd

Ganwyd 16 Medi 1882 yn Llundain. Hanoedd ei thad (Richard Maldwyn) o Fachynlleth a'i mam, (Hannah), o Abertawe; bu iddynt bedwar o blant. Ymaelododd ei rhieni yn eglwys y Boro (A), Llundain, a derbyniwyd hi'n gyflawn aelod yno yn 1896. Cafodd ei haddysg gynnar yn Dulwich ac yna aeth i Goleg St. Mary, Cheltenham i'w hyfforddi'n athrawes ysgol elfennol; wedi hynny, bu'n dysgu am rai blynyddoedd yn Herne Hill, Llundain. Tra oedd yn paratoi i fod yn athrawes ysgol penderfynwyd cwrs ei bywyd ar ôl gwrando ar W. B. Selbie yng nghynhadledd haf Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr yn 1903 a achosodd iddi gynnig ei gwasanaeth i Gymdeithas Genhadol Llundain (L.M.S.). Yn ystod ei chyfnod yn athrawes yn Herne Hill, dilynodd gyrsiau yn King's College, Llundain a neilltuodd ei horiau hamdden am flwyddyn i gynorthwyo'r gwaith yn Crossway Central Mission, Llundain.

Erbyn Tachwedd 1908 yr oedd yn Siao Chang yng ngogledd Tsieina lle y llafuriodd am saith mlynedd yn Ysgol Breswyl y Merched gan wasanaethu'r ardaloedd cyfagos yn ogystal. Adnabyddid hi yno wrth yr enwau Wu Yingzhen, Wu Ying-chen, ac Wu Ying Chun. Y prif orsafoedd cenhadol lle bu'n gweithio yn Tsieina oedd Xiaoxhang, Hebei, Beijing, Shanghai, Ji'nan a Shandong.

Treuliodd flwyddyn ei hegwyl, 1915-16, yng Ngholeg Mansfield Rhydychen ac mewn coleg yn Llundain cyn dychwelyd i Beijing Peiping (Peking), ac apwyntiwyd hi'n brifathrawes ar Ysgol Ganol y Merched. Bu ei chyfraniad i ddatblygiad addysg i ferched yng ngogledd Tsieina yn un sylweddol a chyfetholwyd hi ar Gyngor Ymgynghorol Tsieina ar hyfforddi gwragedd. Cyfetholwyd hi ar Gyngor Ymgynghorol Tsieina ynglyn â hyfforddi gwragedd. Dengys ei llythyrau fod ganddi ran sylweddol, y tu ôl i'r llenni, yn sefydlu'r eglwys annibynnol frodorol yn Beijing. Mae'r Chinese Recorder, er enghraifft, ym 1920 yn adrodd am benodi gwraig o Tsieina'n Is-Lywydd Mudiad Tseina i Grist. Mae'n amlwg o'i llythyrau mai Myfanwy Wood a etholwyd yn wreiddiol, ond iddi dynnu'n ôl, gan fynnu mai gwraig o Tseina a ddylai fod yn dal y swydd ac nad oedd hi i yno ond i gynghori. Gwnaeth gyfraniad helaeth i hybu lle gwragedd yn yr Eglwys. Yn 1921 fe'i rhyddhawyd am gyfnod byr gan Gymdeithas Genhadol Llundain i gynorthwyo C.Y. Cheng ac E. C. Lobenstine i drefnu cynhadledd genedlaethol Cristionogion Tsieina a gynhaliwyd yn Shanghai yn 1922. Yn 1926 apwyntiwyd hi'n ddarlithydd yn Adran addysg grefyddol i ferched ym Mhrifysgol Yenching a chyn dychwelyd yno yn 1928 fel pennaeth yr adran, ymwelodd â Choleg Newydd, Llundain, ac Union Seminary a Phrifysgol Columbia Efrog Newydd i astudio dulliau addysg grefyddol ac i ymgyfarwyddo ymhellach â datblygiadau ym myd diwinyddiaeth. Ym 1939 dychwelodd adref am seibiant, a rhwystrodd yr Ail Ryfel Byd hi rhag dychwelyd i Tsieina. Rhwng 1940 a 1943, bu'n gofalu am ei rhieni oedrannus.

Ar gyfrif ei gwybodaeth am Tsieina a'i hiaith bu galw am ei gwasanaeth gan fwy nag un awdurdod yn ystod Rhyfel Byd II. Ym 1944-45, bu'n monitro'r newyddion a ddarlledid o Tsieina ac yn darlithio ar y wlad. Rhwng Ebrill a Thachwedd 1945 yr oedd yn yr India gyda'r Y.M.C.A., a chyn diwedd y flwyddyn cyrhaeddodd ogledd Tsieina i wasanaethu synod gogledd Tsieina o Eglwys Crist yn Tsieina. Daeth i ganol dioddefwyr y terfysg a fu yno a bu yno yng nghanol y berw a'r dryswch hyd 1951, cyfnod o arwriaeth tu hwnt i eiriau. Ymddeolodd o waith yr L.M.S. yn 1948 ond parhaodd i ddarlithio yn Ysgol Union Feiblaidd i Wragedd ym Mhrifysgol Yenching. Ymhen blwyddyn dadwreiddiwyd y coleg a dilynodd hi y staff a'r myfyrwyr i Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol Cheloo, yn Ji'nan yn nhalaith Shantung. Erbyn 1951, er maint ei hawydd i aros yn y wlad a oedd mor agos at ei chalon, peryglid diogelwch ei chyfeillion gan ei phresenoldeb. Polisi'r llywodraeth newydd oedd bwrw estroniaid allan o'r wlad, ond er hynny, croesawodd y chwyldro, ond heb fod yn ddall i'w ddiffygion a'i beryglon. O'i hanfodd, gadawodd y wlad yn Awst 1951 gan ddychwelyd adref trwy Unol Daleithiau America. Yng Ngorffennaf 1962, cafodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Am ddwy fl. cyflawnodd waith ar ran y Cyngor Eglwysi Prydain. Yn 1954, a hithau'n 72 oed, ordeiniwyd hi yn weinidog eglwys gynulleidfaol fechan Hambleden, ger Henley. Bu'n ddiwyd yn y maes hwn am wyth mlynedd ac ar ôl ymddeol yn 80 oed symudodd i Lomas House, Worthing, cartref o eiddo'r Gymdeithas Genhadol i genhadon ar derfyn eu gwasanaeth.

Bu Myfanwy Wood farw 22 Ionawr 1967 yn Ysbyty Southend, Shoreham-by-Sea. Amlosgwyd ei chorff yn amlosgfa Downs, Brighton, 26 Ionawr, a chynhaliwyd gwasanaeth coffa yn eglwys y Boro, Llundain 2 Chwefror 1967.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.