WILLIAMS, WILLIAM ('Crwys'; 1875 - 1968), bardd, pregethwr ac archdderwydd

Enw: William Williams
Ffugenw: Crwys
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1968
Priod: Grace Harriet Williams (née Jones)
Rhiant: Margaret Williams (née Davies)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, pregethwr ac archdderwydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: William Rhys Nicholas

Ganwyd 4 Ionawr 1875 yn 9 Fagwr Road, Craig-cefn-parc ger Clydach, Morgannwg, yn fab i John a Margaret (ganwyd Davies) Williams. Crydd oedd y tad ac am rai blynyddoedd bu'r mab yntau yn dysgu'r grefft, ond penderfynodd newid cwrs ei fywyd a mynd yn weinidog. Codwyd ef i bregethu yn Eglwys Pant-y-crwys (A), ac wedi dwy flynedd yn ysgol Watcyn Wyn (WILLIAMS, WATKIN HEZEKIAH), Rhydaman, derbyniwyd ef i Goleg Bala-Bangor yn 1894. O dan nawdd y coleg hwnnw bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor am flwyddyn cyn dechrau ar ei gwrs diwinyddol. Yn 1898 ordeiniwyd ef yn weinidog yn Rehoboth (A), Bryn-mawr, Brycheiniog, a oedd yr adeg honno yn un o eglwysi Cymraeg Cyfundeb Mynwy. Yn yr un flwyddyn priododd â Grace Harriet Jones (bu farw 22 Rhagfyr 1937), cydfyfyriwr ag ef ym Mangor, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Yn 1915 derbyniodd wahoddiad i ddilyn Dr. John Cynddylan Jones yn gynrychiolydd y Feibl Gymdeithas yn y de, a bu wrth y gwaith hwnnw hyd ei ymddeoliad yn 1940. Rhwng 1946 ac 1953 bu'n gofalu am eglwys Rhyddings (A. Saesneg), Abertawe. Bu farw 13 Ionawr 1968 a chladdwyd ef ym mynwent Pant-y-crwys.

Bu'n amlwg yng ngweithgareddau'r Eisteddfod Genedlaethol dros lawer o flynyddoedd. Enillodd y goron yn 1910 ar y testun ' Ednyfed Fychan ' ac yn 1919 ar y testun ' Morgan Llwyd o Wynedd '. Ond y bryddest ' Gwerin Cymru ', a enillodd iddo goron 1911, yw'r fwyaf adnabyddus o'i waith. Etholwyd ef yn Archdderwydd yn 1938 a bu yn y swydd hyd 1947. Derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ac anrhydeddwyd ef gan Gyngor Bwrdeistref Abertawe yn 1968 trwy roi penddelw ohono yn Llyfrgell y Dref. Yr oedd yn un o feirdd mwyaf cynhyrchiol a phoblogaidd ei gyfnod. Cyhoeddodd Cerddi Crwys (1920; cafwyd pum arg.), Cerddi newydd Crwys (1924; tri arg.), Trydydd cerddi Crwys (1935), Cerddi Crwys, y pedwerydd llyfr (1944), a dau ddetholiad o'i gerddi (1953 ac 1956). Bu ei adroddiadau i blant ac oedolion yn boblogaidd iawn mewn eisteddfodau yn ail chwarter yr 20fed ganrif, ond fe'i cofir yn bennaf fel awdur telynegion adnabyddus fel ' Dysgub y dail ', ' Melin Trefin ', ' Siôn a Siân ', ' Y border bach ', a ' Y sipsi '. Y mae'n un o'r beirdd a lwyddodd i ymryddhau o gaethiwed arddull y 'Bardd Newydd'. Cyhoeddodd hefyd A brief history of Rehoboth Congregational Church, Bryn-mawr, from 1643 to 1927 (1927), a dwy gyfrol o atgofion, Mynd a dod (1941) a Pedair pennod (1950). Ymysg y llawysgrifau a adawodd y mae deunydd cyfrol Saesneg, ' Hither and thither ', sy'n cyfateb, fwy neu lai, i Mynd a dod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.