WILLIAMS, Syr WILLIAM RICHARD (1879 - 1961), arolygwr trafnidiaeth rheilffyrdd

Enw: William Richard Williams
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1961
Priod: Mabel Escott Williams (née Melluish)
Rhiant: Elizabeth Agnes Williams
Rhiant: Thomas Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arolygwr trafnidiaeth rheilffyrdd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: David Glanville Rosser

Ganwyd 18 Mawrth 1879 yn fab i Thomas Williams ac Elizabeth Agnes ei wraig, Pontypridd, Morgannwg. Priododd, 8 Ebrill 1902, â Mabel Escott Melluish ond ni fu iddynt blant. Yn un a adweinid mewn cylchoedd yn ymwneud â rheilffyrdd fel ' y dyn a lwyddodd i sylweddoli uchelgais bachgen ysgol i redeg rheilffordd ', addysgwyd ef yng Nghaerdydd a chychwynnodd ar ei yrfa yn glerc bach i Gwmni Rheilffordd Rhymni yn 1893. Rhoddwyd yr Adran Drafnidiaeth yn ei ofal ef yn 1905, a daeth ei awr fawr, adeg adrefnu'r rheilffyrdd i ffurfio rhwydwaith y prif gwmnïau yn 1922, pan benodwyd ef gan y Great Western Railway yn Arolygydd Rhanbarthol Cynorthwyol yng Nghaerdydd. Urddwyd ef yn farchog yn 1930 am ei wasanaeth oes i'r rheilffordd yng Nghymru a'i wasanaeth dinesig yng Nghaerdydd. Ymddeolodd flwyddyn yn ddiweddarach. Dechreuodd gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol yn 1913 pan etholwyd ef yn aelod o Gyngor Dinas Caerdydd. Bu'n ddirprwy Arglwydd Faer, 1921-22, yn Arglwydd Faer, 1928-29, ac yn 1954 cafodd ryddfreiniad y ddinas. Bu farw 28 Mehefin 1961.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.