WILLIAMS, IESTYN RHYS (1892 - 1955), prif gyfarwyddwr Adran Cysylltiadau Llafur y Bwrdd Glo Cenedlaethol

Enw: Iestyn Rhys Williams
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1955
Priod: Barbara Williams (née Stamp)
Priod: Edith Ellen Williams (née Diamond)
Rhiant: Augustus Frederick Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prif gyfarwyddwr Adran Cysylltiadau Llafur y Bwrdd Glo Cenedlaethol
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: William David (Bill) Jones

Ganwyd 1892 yng Nghaerdydd, yn fab i Augustus Frederick Williams, peiriannydd mwyngloddio, ac addysgwyd ef yn ysgol elfennol Parc y Rhath. Yn 1913 ymunodd â staff Cymdeithas Perchnogion Pyllau Glo De Cymru a Mynwy a phenodwyd ef yn gynorthwywr i'r ysgrifennydd Finlay A. Gibson yn 1922, gan ddod yn gydysgrifennydd yn 1936, y Cymro cyntaf i gael y swydd. Ystyrid ef yn un o'r rhai mwyaf gwybodus ynghylch y diwydiant glo yn ei ddydd, ac enillodd enw iddo'i hun fel dolen gyswllt rhwng y gweithwyr a'r meistri. Yr oedd yn negydwr neilltuol o dda, gan wasanaethu fel cydysgrifennydd Bwrdd Cymodi De Cymru, a pherchid ef yn fawr gan berchnogion pyllau glo yn ogystal â swyddogion undebau. Bu hefyd naill ai'n ysgrifennydd neu yn aelod o lawer o gyrff cysylltiedig â'r gwaith glo, yn arbennig pwyllgor De Cymru y Bwrdd Ymchwil i Ddiogelwch mewn Pyllau Glo. Cyn bwysiced â'i gyfraniad i'r diwydiant glo yn ne Cymru oedd ei ymroddiad yn pleidio achos y diwydiant yn ystod y dirwasgiad rhwng y ddau Rhyfel Byd. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i gylchgronau'r fasnach lo er mwyn hyrwyddo'r diwydiant a bu'n gydysgrifennydd mygedol yr ymgyrch ' Back to Coal ' yn ne Cymru. Ar ôl cenedlaetholi'r diwydiant glo yn 1947 penodwyd ef yn brif swyddog gweithredol Adran Cysylltiadau Llafur y Bwrdd Glo Cenedlaethol. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn daeth yn brif gyfarwyddwr yr adran, swydd a gadwodd hyd nes iddo ymddeol ym mis Mehefin 1954.

Yn 1917 priododd (1) ag Edith Ellen Diamond (bu farw 1934) ac yn 1935 priododd (2) â Barbara Stamp. Yr oedd ganddo dri o blant, a bu farw yn ddisymwth pan oedd ar ei wyliau yng Nghernyw, 26 Awst 1955.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.