Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , DAVID PRYSE (‘ Brythonydd ’; 1878 - 1952 ), gweinidog (B), llenor, a hanesydd ; g. Ddydd Gŵyl Ddewi 1878 a'i fagu yn y Wenallt , plwyf Troed-yr-aur (Trefdreyr), Cer. , ei dad Ivor Pryse Williams ( 1850 - 1920 ) yn fab i'r offeiriad llengar Benjamin Williams (‘ Gwynionydd ’; 1821 - 1891 ; Bywg ., 965) a'i fam Elizabeth yn ferch i deulu o Fedyddwyr yn eglwys Bethel , Dre-fach Felindre , a dau o'i brodyr, David Phillip Jones ( 1850 - 1884 ), Felingwm a Llanfynydd , a Samuel Jones ( 1857 - 1935 ), Llaneirwg , wedi eu codi i'r weinidogaeth. Dilyn ei fam i gorlan y Bedyddwyr wnaeth y mab, dechrau pregethu yn 1903 a llwyddo gyda chlod y flwyddyn wedyn yn arholiadau'r enwad. Derbyniwyd ef yn 1908 i Goleg Efengylaidd (Bedyddiedig gan mwyaf) Dunoon yn Kirn , swydd Argyll , ac ar ben cwrs dwy fl. ord. ef, 21 Mai 1910 , yn weinidog Ffynnonhenri , a'i gofrestru i fwrw dwy fl. ran-amser yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin wrth draed M.B. Owen ( 1875 - 1949 ; Bywg . 2, 46) . Symudodd yn 1913 i Philadelphia , Abertawe (gan dreulio ysbaid fer yn ystod Rhyfel Byd I gyda'r Y.M.C.A. yn swydd Gaint ), ac oddi yno yn 1920 i Libanus , Treherbert , lle'r arhosodd weddill ei oes yn uchel ei barch a'i ddylanwad. Gartref y bwriodd ei fywyd hyd at ei 30 oed, yn llenydda ac eisteddfota ac yn chwilota hanes y darn gwlad sy'n ymestyn o Gastellnewydd Emlyn i gyfeiriad y môr ym mhlwyf Penbryn , ac er gwaethaf pyliau mynych o wendid corff mae'n ddiau mai degawd cyntaf y ganrif oedd blynyddoedd mwyaf toreithiog ei ymchwil. Cyhoeddodd ffrwd o gerddi, ysgrifau a nodiadau ym mhapurau wythnosol Aberteifi ac Aberystwyth a chylchgronau megis Seren Gomer , Yr Athraw , Arch. Camb. , Byegones a'r Geninen , ond ni chyhoeddwyd ei draethawd ar Hanes Cenarth a wobrwywyd gan Syr John Rhŷs ( Bywg ., 793-4) yn eisteddfod Castellnewydd Emlyn yn 1902 . Yn y cyfnod hwn bu'n gohebu â nifer o brif ysgolheigion Cymraeg y dydd. Yn ystod ei gyfnod yn Nhreherbert llwyddodd i warchod archifau swyddogol y capel ac ysgrifennodd Canmlwyddiant Libanus … braslun o'r hanes [ 1950 ]. O'i ddyddiau cynnar bu'n weithgar yn achub llyfrgelloedd enwogion a chyfoedion , ac ar brydiau'n troi'r deunydd yn sail cofiannau, e.e. ei daid Gwynionydd ; David James , ‘ Defynnog ’ ( 1865 - 1928 ) (gw. Atodiad isod) , Lewis Jones , y cerddor o Dreherbert (m. 1882 ), William Evans Davies ( 1861 - 1945 ), Drefach , Rees Price (m. 1896 ), Cilfowyr , John Gomer Lewis ( 1844 - 1914 ) (gw. Bywg ., 521) a David Price ( 1865 - 1931 ), ill dau o Abertawe , ac Anthony Williams ( 1845 - 1913 ), Ystrad Rhondda ; ac atynt hwy Rhys Jones Lloyd ( 1827 - 1904 ), mab plas y Bronwydd yn Llangunllo , rheithor Troed-yr-aur , a'i gymydog helyntus o Annibynnwr Thomas Cynfelyn Benjamin ( 1850 - 1925 ), Pen-y-graig , y bu D. P. W. â rhan yn y gwaith o godi carreg fedd iddo ym mynwent Llethr-ddu , Trealaw .

Pr., 1 Hyd. 1941 , yn y Tabernacl , Caerdydd , ag aelod o'i eglwys, Annie Lydia , unig ferch David a Jane Morgan , Cedrwydd , Treherbert , dirprwy brifathrawes Ysgol Gynradd Penyrenglyn ac ysgrifenyddes Cymdeithas Cymrodorion Treherbert . Bu ef f. yn sydyn yn Ysbyty Church Village , 27 Hyd. 1952 a'i gladdu yn Amlosgfa Glyn-taf .

Llyfryddiaeth:

  • Ei gasgliad llsgrau., LlGC 15622-963 a 15985-16039, a ffotograffau, 347-401;
  • Transactions of the Cardiganshire Antiquarian Society , 5 ( 1967 ), 347-401 (ysgrif ar ‘Gwynionydd’, yn cynnwys yr achau);
  • Sidney Jenkins , Hanes Eglwys y Bedyddwyr, Ffynnonhenri , 1930 ( 1930 ), 60;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 10330 (cofrestr myfyrwyr Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin), 261;
  • Seren Cymru , 21 Tach. 1952 , 11 Chwef. 1955 , 20 Awst, 10 Medi 1965 ;
  • Dyddiadur a Llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru , 1953 , 180-1;
  • Baptist Handbook , 1954 , 341;
  • Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru , 1964 , 40-1, 48-9, 1967 , 38-48, 1976-7 , 42, 1987, 45-56;
  • Western Mail , 31 Gorff. 1965 ;
  • Rhondda Leader , 1, 8 Tach. 1952 , 6 Awst 1965 ;
  • gwybodaeth gan ei frawd-yng-nghyfraith, Parch. T. Haydn Morgan, Ystradmynach .

Awdur:

Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth