WILLIAMS, WILLIAM OGWEN (1924 - 1969), archifydd, Athro prifysgol

Enw: William Ogwen Williams
Dyddiad geni: 1924
Dyddiad marw: 1969
Rhiant: Margaret Williams (née Pritchard)
Rhiant: William Henry Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archifydd, Athro prifysgol
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: William Keith Williams Jones

Ganwyd yn Llanfairfechan, Caernarfon, 12 Rhagfyr 1924, yr hynaf o ddau fab William Henry Williams a Margaret (ganwyd Pritchard); addysgwyd yn yr ysgol genedlaethol, Llanfairfechan, 1928-35, Ysgol Friars, Bangor, 1935-42, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, 1942-47 (B.A., Hanes, dosbarth cyntaf, 1945), Prifysgol Llundain 1947-48 (diploma mewn Archifyddiaeth, 1949); penodwyd ef yn ddarpar-archifydd Sir Gaernarfon, 1 Awst 1947, ac yn archifydd llawn y sir yn 1949, yn ddarlithydd rhan-amser mewn archifyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, 1954, darlithydd mewn hanes trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor, 1958-63, darlithydd yn hanes Cymru yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, 1963-65, a darlithydd hŷn, 1965-67, cyn ei ddyrchafu'n Athro Hanes Cymru yno, 1967-69. Ar wahân i hyn bu'n olygydd cynorthwyol Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1950-55, ac yn olygydd yr un Trafodion, 1955-69. Yr oedd yn nodedig am graffter ei feddwl, ei barodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb, ei ddawn i ennill ymddiriedaeth eraill; ei gwrteisi naturiol, ei arswyd rhag gwneud niwed i unrhyw un, ei angen am gwmnïaeth a'i hoffer ohono, a'i ddawn ryfeddol fel ymgomiwr a darlithydd.

Fel archifydd cyntaf Sir Gaernarfon, llwyddodd nid yn unig i roi trefn ar archifau gwych y sir honno (fel y dengys ei Guide to the Caernarvonshire Record Office, 1952) ond hefyd i boblogeiddio'r archifau hynny. Y mae erthygl o'i eiddo - ' County Records ' - a ymddangosodd mor gynnar ag 1949 yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yn dyst o'i feistrolaeth ar yr archifau a'i ddawn i'w cyflwyno'n ddiddorol a dealladwy i gynulleidfa o leygwyr. Ond nid dyna'i gyfraniad pwysicaf o bell ffordd, oherwydd yn 1956 cyhoeddodd ei Calendar of the Caernarvonshire Quarter Sessions Records 1541-1558, sy'n cynnwys rhagymadrodd meistrolgar ar gefndir hanesyddol y dogfennau. Dichon mai dyma'r dadansoddiad gorau a gafwyd erioed o'r drefn weinyddol a chymdeithasol yng Nghymru yn Oes y Tuduriaid, ac ar ei gorn dyfarnwyd iddo radd M.A. Prifysgol Cymru yn 1956. Atgynhyrchwyd rhannau helaeth o'r rhagymadrodd ddwy flynedd yn ddiweddarach dan y teitl Tudor Gwynedd. Yn y Calendar daeth yr archifydd a'r hanesydd oedd ynddo yn un, megis, a'r ddau ar eu gorau.

Cyhoeddodd amryw erthyglau ar ôl y Calendar, ' The Survival of the Welsh Language, 1536-1642 ' (Cylchgrawn Hanes Cymru, 2, 1964) a ' The social order in Tudor Wales ' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1967) yn eu plith, ond fel yr ymledodd ei orwelion ac y collodd gysylltiad ag archifau gwreiddiol llaciodd ei afael dipyn fel hanesydd. Gresyn nad ailgydiodd o ddifrif yn y gwaith o astudio uchelwyr Gwynedd. Yr oedd ganddo gyfraniad pwysig iawn i'w wneud yn y cyfeiriad hwn: rhoddodd ragflas inni o hynny yn ei erthygl awgrymog ar ' The Anglesey gentry as business men in Tudor and Stuart times yn Nhrafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn yn 1948.

Y chwarel ac ardal y chwareli oedd cefndir y teulu cyn i'w dad ddod i feddiannu siop yn Llanfairfechan; ond byd yr uchelwyr a'i cyfareddodd ef. Anghydffurfwyr brwd oedd ei rieni, eithr troi i'r eglwys a wnaeth ef (dan ddylanwad yr Archddiacon Henry Williams ac eraill) am gynhaliaeth ysbrydol. Rhyddfrydwyr mawr oedd ei dad a'i fam, ond gogwydd ceidwadol oedd i'w feddwl ef. Yr oedd yn ddigon cadarn i sefyll ar ei draed ei hun ar dir egwyddor a gweledigaeth. Goresgynnodd anfanteision corfforol: ganed ef â nam ar un glun ac un llygad (dyna a'i cadwodd o'r fyddin, er iddo'i gynnig ei hun i'r awdurdodau yn 1942) ond ni adawodd hynny i lywodraethu ei feddwl, nac i amharu un iot ar ei archwaeth at fwynhau bywyd, nac ychwaith i ymddangos i eraill eu bod yn boen iddo.

Bu farw mewn amgylchiadau trist: darganfuwyd ef wedi boddi ar draeth Ynys-las, ger Aberystwyth, 3 Mai 1969. Yr oedd yn ddibriod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.