WILLIAMS, ALUN OGWEN (1904 - 1970), eisteddfodwr

Enw: Alun Ogwen Williams
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1970
Priod: Gwladys Spencer Williams (née Jones)
Priod: Lil Williams (née Evans)
Plentyn: Euryn Ogwen Williams
Rhiant: Catherine Williams (née Thomas)
Rhiant: John Samuel Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Perfformio
Awdur: Euryn Ogwen Williams

Ganwyd 2 Hydref 1904 yn Well Street, Gerlan, Bethesda, Sir Gaernarfon, yn fab i John Samuel Williams a Catherine (ganwyd Thomas) ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol gynradd y Gerlan, ysgol sir Bethesda a Choleg Normal Bangor (1922-24), gan fynd oddi yno i Lanfairfechan (1924-26) a Phwllheli (1926-36) fel athro cyn ei ddyrchafu'n brifathro Pentre Uchaf (1936-42), Penmachno (1942-52) a Choed-llai (1952-63). Er iddo ymddeol i'r Rhyl yn 1963 parhaodd i ddysgu Cymraeg yn Ysgol Gyfun Clawdd Offa, Prestatyn hyd 1965. Priododd (1) â Lil Evans (a fu farw 2 Awst 1968) yn Llanbedr, Meirionnydd yn 1932 a bu iddynt un mab. Priododd (2) â Gwladys Spencer Jones ym Mae Colwyn, Mehefin 1970 ond bu farw prin ddeufis yn ddiweddarach ar 4 Awst, yn Nhreorci, lle y cynhelid yr Eisteddfod Genedlaethol y fl. honno.

Daeth i'r amlwg yn ifanc fel adroddwr a bu'n adroddwr, actor a beirniad adrodd drwy'i oes. Sefydlodd Barti Penmachno, parti cyngerdd a fu'n teithio trwy Gymru a Lloegr dros gyfnod Rhyfel Byd II ac wedi hynny. Ef oedd arweinydd ac adroddwr y parti. Bu'n aelod o Orsedd y Beirdd am ddeugain mlynedd, gan wasanaethu fel ei hysgrifennydd am ddeng mlynedd ac ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod dros yr un cyfnod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.