WILLIAMS, ROBERT JOHN (PRYSOR; 1891 - 1967), glöwr ac actor

Enw: Robert John Williams
Ffugenw: Prysor
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1967
Priod: Margaret Mary Williams (née Walters)
Rhiant: Eliza Williams
Rhiant: Ellis Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: glöwr ac actor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Perfformio
Awdur: Lorraine Davies

Ganwyd 13 Ebrill 1891 yn Nhrawsfynydd, Meirionnydd. Saer oedd ei dad, Ellis, a fu farw yn ifanc; ei fam, Eliza, merch ' Eos Prysor ', a'i cododd ef a'i chwaer gyda chymorth prin Bwrdd y Gwarcheidwaid. Addysgwyd ef yn ysgol Frytanaidd Trawsfynydd ond gadawodd yn ddeng mlwydd oed i ennill ei damaid fel gwas ffarm. Pan ailbr. ei fam symudodd y teulu i gymoedd glo y De, i Abertridwr gyntaf, lle cychwynnodd weithio dan ddaear yn 13 mlwydd oed ym mhwll Senghennydd, ac wedi hynny yn Nhreorci, ym mhwll Abergorci.

Ymddiddorai mewn cerddoriaeth a drama a thrwy ei ymdrechion ei hun daeth yn godwr canu, yn organydd y capel (a'r sinema leol hefyd pan fyddai'n brin o arian), ac yn aelod amlwg o'r cwmni opera a'r cwmni drama. Yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci 1928 cyfarfu â dau ddyn a oedd i ddylanwadu'n fawr arno, sef Daniel Haydn Davies, a ddaeth yn gynhyrchydd rhaglenni ysgolion yn y B.B.C., a hefyd un a fu'n gyfaill oes iddo, sef David Moses Jones, glöwr ac actor fel yntau. Yn 1936 gwahoddodd Thomas Rowland Hughes, y nofelydd a'r cynhyrchydd, y ddau i gymryd rhan mewn dramâu radio ac am y 30 mlynedd nesaf yr oedd llais Prysor Williams ymhlith y rhai mwyaf adnabyddus ar radio a theledu Cymru. Ar lwyfan hefyd, yn cynnwys perfformiadau yn yr Abbey yn Nulyn (Birds of a feather gan J. O. Francis) ac yn y Globe, Llundain (Rhondda roundabout gan Jack Jones). Cymerodd ran hefyd mewn pum ffilm; y fwyaf adnabyddus efallai oedd Blue scar o waith Jill Craigie.

Priododd yn 1917 â Margaret Mary Walters a bu iddynt ddwy ferch. Bu farw 13 Hydref 1967 yn Nhreherbert ac amlosgwyd ei weddillion yng Nglyn-taf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.