WILLIAMS, Syr IFOR (1881 - 1965), Athro prifysgol, ysgolhaig

Enw: Ifor Williams
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1965
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro prifysgol, ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd ym Mhendinas, Tregarth, Sir Gaernarfon, 16 Ebrill 1881, yn fab i John Williams a Jane ei wraig. Chwarelwr oedd ei dad. Ei daid ar ochr ei fam oedd Hugh Derfel Hughes, ac ewythr iddo oedd H. Brython Hughes. Ar ôl cael addysg elfennol yn ysgolion y Gelli a Llandygái, aeth i Ysgol Friars, Bangor yn 1894, ond ni fu yno ond ychydig dros flwyddyn, gan iddo gael damwain ac anafu ei gefn yn ddrwg. Bu'n orweiddiog am rai blynyddoedd. Ar ôl gwella aeth yn ddisgybl i Ysgol Clynnog yn 1901, sef ysgol dan nawdd Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd i roi cychwyn i ymgeiswyr am y weinidogaeth. Y meistr ar y pryd oedd J. H. Lloyd Williams. Enillodd Ifor Williams ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, yn 1902, graddiodd gydag anrhydedd mewn Groeg yn 1905, ac anrhydedd mewn Cymraeg yn 1906. Treuliodd y sesiwn 1906-07 fel cynorthwywr i John Morris-Jones yn yr Adran Gymraeg ac yn gweithio am radd M.A., ac yna yn 1907 penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol. Yn 1920 crewyd cadair iddo dan y teitl Athro Llenyddiaeth Gymraeg, a phan fu farw J. Morris-Jones yn 1929, diddymwyd y Gadair Lenyddiaeth, a gwneud Ifor Williams yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg. Ymddeolodd yn 1947.

Un o ddiddordebau ysgolheigaidd cyntaf Ifor Williams oedd Cymraeg Llafar. Enillodd am draethawd ar y pwnc yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1906, a thraddododd ddarlithiau i lu o gymdeithasau trwy'r blynyddoedd. Diddordeb arall oedd enwau lleoedd. Cyfrannodd erthyglau ar enwau lleoedd y cylch i bapur Bethesda, Y Gwyliwr, yn 1907, a chasglodd gryn lawer o ddefnydd ar gyfer cyhoeddi onomasticon Cymreig. Er na chyflawnwyd y bwriad, parhaodd ei ddiddordeb yn hir, a chyhoeddodd lyfr defnyddiol dan y teitl Enwau lleoedd yn 1945. Yn 1949 ar gais I. A. Richards ac O.G.S. Crawford, ysgrifennodd ar 118 o enwau lleoedd yn y gwaith a elwir ' Ravenna Cosmography ' (Archaeologia, 1949).

Gyda phwrpas hollol ymarferol y cyhoeddodd Syr Ifor ei lyfrau cynharaf - Breuddwyd Maxen (1908) a Cyfranc Lludd a Llevelys (1909) - sef er mwyn darparu testunau i'w hastudio yn yr ysgolion a'r colegau, ac yn gyffelyb yn ddiweddarach Chwedlau Odo (1926) a Pedeir keinc y Mabinogi (1930). Nid gyda'r un amcan y golygodd Casgliad o waith Ieuan Deulwyn (1909), gan mai argraffiad preifat o ddau gan copi yn unig oedd hwnnw. Ond dychwelodd at yr amcan cyntaf gyda Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr (1914, arg. diwyg. 1935) ar y cyd gyda Thomas Roberts. Yr oedd wedi ymddiddori'n gynnar yn Nafydd ap Gwilym - bu'n trafod blynyddoedd ei einioes mewn dwy erthygl yn Y Traethodydd yn 1909 - a'r gyfrol yn 1914 oedd yr ymgais gyntaf i drin rhai o gerddi'r bardd mewn ffordd ysgolheigaidd, er bod rhai o'r cerddi'n annilys a rhai darlleniadau'n ansicr. O hyn aeth ymlaen i ddangos, mewn erthygl sylweddol yn Nhrafodion y Cymmrodorion 1913-14, ddylanwad barddoniaeth y Cyfandir ar Ddafydd ap Gwilym trwy'r clerci vagantes. Ymchwiliodd hefyd i hanes câr a chyfoeswr y bardd, Syr Rhys ap Gruffudd, ac arweiniodd hyn at drafodaeth ar Einion Offeiriad, cyfaill Rhys ac awdur y gramadeg cyntaf yn Gymraeg (Y Cymmrodor, 26). Yr oedd cyfraniad Syr Ifor i'r maes hwn yn newydd iawn ac yn dra gwerthfawr.

Yr un awydd i ddarparu testunau a barodd gyhoeddi Cywyddau Iolo Goch ac eraill yn 1925 gyda Thomas Roberts a Henry Lewis. Golygodd Syr Ifor gerddi dau fardd a gasglwyd gan ddau ysgolhaig arall, sef Dafydd Nanmor (1923), casgliad Thomas Roberts (Borth-y-gest), a Guto'r Glyn (1939) casgliad J. Llywelyn Williams. Cyhoeddodd amryw byd o destunau, yn rhyddiaith a barddoniaeth, ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Bu ganddo gryn ddiddordeb hefyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ysgrifennodd ar orgraff a geirfa William Salesbury (Y Traethodydd, 1946, 1949), ac ar y llyfr argraffedig cyntaf yn Gymraeg, sef Yny lhyvyr hwnn, gan fynnu mai 1547, nid 1546, oedd blwyddyn ei gyhoeddi. (Ond camgymeriad oedd hynny, fel y profwyd yn Bulletin of the Board of Celtic Studies, 23).

Pethau ar yr ymylon oedd y rhain i gyd, oherwydd pwnc canolog holl ymchwil Ifor Williams oedd yr Hengerdd, y farddoniaeth a gysylltir ag enwau Aneirin, Taliesin a Llywarch Hen, ac ar yr Hengerdd yn uniongyrchol, neu ar faterion oedd yn taflu goleuni arni, y bu'n gweithio ers pan oedd yn bump ar hugain oed hyd o fewn ychydig flynyddoedd i'w farw. Ar ôl graddio yn 1906 cymerodd ' Y Gododdin ', sef gwaith Aneirin, fel testun ymchwil am radd M.A., a chyhoeddodd nodiadau ar ystyron rhai geiriau yn y gerdd mor gynnar ag 1908 (Y Geninen, 26) a hefyd erthyglau yn cynnwys llawer o wybodaeth a oedd yn newydd ar y pryd yn Y Beirniad yn 1911 ac 1912.

Eithr yr oedd y maes yn dywyll iawn a dyrys, a chyn y gellid cyhoeddi'r hyn y gellid ei alw'n astudiaeth derfynol arno, rhaid oedd ystyried yn ofalus iawn hanes Cymru a gogledd Prydain, a hanes yr iaith Gymraeg hefyd yn y cyfnod rhwng y chweched ganrif a'r ddegfed. Dyna a benderfynodd batrwm ysgolheictod Syr Ifor ar hyd ei oes, patrwm cwbl daclus a rhesymegol. Astudiodd Historia Brittonum Nennius yn drwyadl, gan mai yno y ceir y crybwylliad cynharaf am y Cynfeirdd a hanes eu cyfnod, a gwnaeth awgrymiadau pwysig ynglyn â dehongli'r gwaith hwnnw (Bulletin of the Board of Celtic Studies, 6, 7, 9, 11). Dangosodd hefyd mewn darlith i'r Cymmrodorion fod rhai o ffynonellau Nennius mewn chwedlau llafar (Trafodion, 1946-47). Cwbl hanfodol oedd deall nodweddion yr iaith yn oes y Cynfeirdd, a'r peth cyntaf i'w wneud oedd astudio'n ofalus iawn y dystiolaeth gyfoes wreiddiol, megis y glosau ar eiriau Lladin sydd i'w cael mewn rhai hen lawysgrifau. Trwy hyn fe helaethodd Syr Ifor lawer iawn ar ein gwybodaeth o'r Hen Gymraeg. Yr enghraifft orau o hynny yw ei ymdriniaeth â'r darn a elwir 'Computus' (Bulletin of the Board of Celtic Studies, 3), sef esboniad a ysgrifennwyd yng nghyfnod cynnar yr iaith ar sut i ddefnyddio dau dabl seryddol. I ddehongli'r darn hwn yr oedd raid, nid yn unig wrth wybodaeth ieithyddol helaeth, ond hefyd wrth graffter a deallusrwydd i amgyffred sylwedd y cefndir. Defnydd arall a gafodd sylw Ifor Williams oedd yr arysgrifau ar gerrig, tystiolaeth bwysig iawn eto am gyflwr yr iaith yn y canrifoedd cynnar. Fel canlyniad i'r astudiaethau hyn ac eraill cyffelyb enillodd Syr Ifor wybodaeth eang iawn am ystyron geiriau Cymraeg. Ysgrifennodd nodiadau ar ugeiniau o eiriau, gan esbonio ystyron llu mawr ohonynt am y tro cyntaf, yn Y Beirniad a'r Traethodydd i gychwyn ac yna ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd o 1921, pan sefydlwyd y cylchgrawn hwnnw, am dros bymtheg mlynedd ar hugain.

Yr oedd y gweithgarwch enfawr hwn wedi rhoi i Ifor Williams y ddawn a'r hawl i lefaru am yr Hengerdd, a dechreuodd gyda chyhoeddi ei sylwadau ar yr hawsaf i'w dehongli o'r farddoniaeth, sef yr englynion hynny y tybid unwaith eu bod yn waith Cynfardd o'r enw Llywarch Hen. Yn 1933 traddododd ddarlith goffa Syr John Rhys i'r Academi Brydeinig, a gwneud yn hysbys ei ddamcaniaeth am yr englynion. Cyhoeddwyd y testun gyda rhagymadrodd a nodiadau llawn yn y gyfrol Canu Llywarch Hen (1935). Yn wyneb y dehongliad a roir ar yr englynion, anffodus oedd eu galw'n ganu Llywarch Hen, oherwydd nid yr awdur oedd Llywarch fel y mae'r teitl yn awgrymu, ond un o'r cymeriadau y sonnir amdanynt. A mwy na hynny, y mae nifer mawr o'r englynion nad oes a wnelont ddim â Llywarch, ond yn hytrach â Chynddylan ap Cyndrwyn a'i chwaer Heledd. Yn ôl Syr Ifor yr oedd yn arfer gynt wrth adrodd chwedl neu gyfarwyddyd gynnwys ynddi ar dro neu i amcanion arbennig farddoniaeth ar ffurf englynion, a'r englynion hynny wedi eu cadw ar wahân yw'r rhain. Trist a hiraethus yw eu hansawdd - Llywarch yn ei henaint wedi colli ei feibion oll a'i gyfeillion, a Heledd yn galaru uwchben llys difrodedig Chynddylan ei brawd. Amserwyd y ddwy chwedl tua'r flwyddyn 850. (Dylid dweud fod rhai ysgolheigion diweddar yn anghytuno â'r ddamcaniaeth hon neu wedi diwygio lawer arni).

Gorchest fwyaf Ifor Williams oedd ei ddehongliad, yn y gyfrol Canu Aneirin (1938), o'r ' Gododdin ' fel nifer o farwnadau byrion i aelodau'r fyddin fechan o drichant a anfonwyd gan Fynyddawg Mwynfawr, arglwydd Dineidyn, i geisio adennill Catraeth (Catterick heddiw) a oedd wedi ei feddiannu gan y Saeson, ond a oedd unwaith yn ganolfan bwysig. Methiant llwyr fu'r ymgyrch. Dangosodd y golygydd fod iaith rhannau o'r gerdd yn profi ei bod i'w chael yn ysgrifenedig yn y nawfed neu'r ddegfed ganrif, a diamau ei bod yn cylchredeg ar lafar ymhell cyn hynny. Dangosodd hefyd fod y ffeithiau sydd ynddi yn gytûn â'r hyn a wyddom am hanes y wlad a elwir heddiw yn ogledd Lloegr a deheudir yr Alban yn y chweched ganrif, ac felly y mae'n rhesymol credu fod brwydr Catraeth wedi ei hymladd tua'r flwyddyn 600, a bod cnewyllyn y ' Gododdin ' yn coffáu'r frwydr honno.

Yr olaf o'r Cynfeirdd a drafodwyd gan Ifor Williams oedd Taliesin. Dangosodd fod bardd o'r enw wedi canu i frenhinoedd ym Mhowys ac yn yr hen Ogledd yn y chweched ganrif, a bod rhyw ddwsin o'i gerddi ar gael heddiw. Profodd hefyd fod chwedlau am Daliesin wedi tyfu yn gynnar ac wedi para ar lafar gwlad hyd yr unfed ganrif ar bymtheg o leiaf. Cyhoeddodd Canu Taliesin (1960), a helaethiad Saesneg dan olygyddiaeth J. E. Caerwyn Williams , The poems of Taliesin (1968), a thrafodaeth ar y cymeriad chwedlonol, Chwedl Taliesin (1957).

Yn ychwanegol at ei waith mawr ar y Cynfeirdd, eglurodd Syr Ifor rai cerddi sy'n perthyn i'r 'bwlch' rhwng y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, fel marwnad Cynddylan, mawl i Gadwallon, moliant Dinbych Penfro, ' Armes Prydain ', a'r englynion hynny sydd i'w cael yn llawysgrif Juvencus yng Nghaergrawnt.

Rhoes y radio gyfle i Ifor Williams i ddatblygu'r ddawn arbennig oedd ganddo i lunio sgyrsiau ar lun ysgrifau difyr i'w darllen, a'r rheini'n fynych yn cyflwyno pwnc ysgolheigaidd neu'n athronyddu'n ysgafn. Casglwyd hwy'n dri llyfr - Meddwn i (1946), I ddifyrru'r Amser (1959) a Meddai Syr Ifor (1968).

Fel ysgolhaig ymroddedig ni bu iddo erioed ddifyrrwch mewn gwaith cyhoeddus. Gwasanaethodd ar gyrff dysgedig, fel cadeirydd Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol 1941-58, llywydd Cymdeithas Hanes Môn 1939-54 a Chymdeithas Hynafiaethau Cymru 1949. Derbyniodd fedal y Cymmrodorion yn 1938, ac etholwyd ef yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig yr un flwyddyn. Gwnaed ef yn farchog yn 1947. Yn 1949 dyfarnodd Prifysgol Cymru y radd LL.D. er anrhydedd iddo. Yr oedd yn gynnyrch nodweddiadol o Ymneilltuaeth Cymru; bu'n pregethu 'n gyson ar y Suliau am lawer o flynyddoedd. Bu'n darlithio ym mhob rhan o'r wlad, ac fel darlithydd, yn gyhoeddus yn ogystal ag i ddosbarthiadau coleg, yr oedd yn fedrus iawn ar ddifyrru ei wrandawyr. Fel Athro coleg, yr oedd ei ddysg eang a'i ddull diddorol o'i chyfrannu yn ysbrydoli ei ddisgyblion.

Priododd â Myfanwy Jones, Cae-glas, Pontlyfni, Arfon, yn 1913, a bu iddynt ferch a mab. Bu farw 4 Tachwedd 1965, a chladdwyd ef ym mynwent Brynaerau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.