WILLIAMS
,
HUGH
(
1862
-
1953
),
gweinidog (MC) ac esboniwr beiblaidd
;
g. ef yn
1862
yn y
Rhos-goch
,
Rhos-y-bol
,
Môn
. Dechreuodd
bregethu
c.
1885-86
yn y
Gorslwyd
, a bu'n
arolygu
eglwys Rhos-goch
am lawer o flynyddoedd. Addysgwyd ef yn
ysgol Gwredog
, ac fe'i noddwyd gan deulu
Gwredog
a'i alluogi i fynd i
Goleg y Bala
. Cymerodd y
Prifathro
Thomas Charles
Edwards
(
Bywg
., 184-5)
ddiddordeb ynddo, a bu'n
ysgrifennydd preifat
i'r gŵr hwnnw am dymor, — ef a drosodd i'r
Gymraeg
Ddarlith Davies
y
prifathro
,
Y Duw-ddyn
. Aeth am daith i'r
Almaen
a meistroli'r
Almaeneg
i ryw raddau. Dychwelodd i
Fôn
a'i ord. yn
1897
.
Cyhoeddodd gyfres o wyth neu naw o esboniadau ar lyfrau'r Testament Newydd
rhwng 1901 ac 1923
, a bu cryn fri arnynt yn yr ysgolion Sul. Bu'n astudio
Athrawiaeth yr Iawn
am flynyddoedd, a thraddododd y
Ddarlith Davies
ar y maes hwnnw yn
1945
gan ei chyhoeddi dan y teitl
Grym y groes
yn
1948
. Cafodd radd
D.D.
gan
brifysgol Princetown
(
T.U.A.
) ar sail traethodau ar yr athrawiaeth a drafodir yn y gyfrol honno. Bu f.
25 Awst 1953
yn
Amlwch
yn 91 mlwydd oed.
Llyfryddiaeth:
-
Hugh Owen
(gol.),
Braslun o hanes Methodistiaid Calfinaidd Môn
(1880-1935)
, Lerpwl, 1937
(
1937
), 95, 341;
-
Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd
,
1954
, 233;
-
H. Ll. Williams
,
Braslun o Hanes Methodistiaeth Galfinaidd
Môn 1935–70
, 1977
(
1977
), 103-4.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe