Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , DANIEL HOWELL ( 1894 - 1963 ), aerodynamegydd ; g. 27 Meh. 1894 , yn Ffestiniog, Meir. , yn fab i Griffith J. Williams , ysgolfeistr ( Bywg ., 977) , a'i wraig Mary Helena . Cofrestrwyd ef fel Daniel John ond mabwysiadodd yr enw Howell , cyfenw morwynol ei fam. Yr oedd yn nai i Syr Richard J. Williams ( Maer Bangor , 1913-20 ); addysgwyd ef yn Ysgol Friars , Bangor , ac ym mis Hyd. 1912 aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru gydag ysgoloriaeth mynediad . Mathemateg oedd ei brif gwrs o dan yr Athro G. H. Bryan , F.R.S. Fel myfyriwr disglair enillodd nifer o ysgoloriaethau a gwobrwyon, yn cynnwys gwobr R. A. Jones mewn Mathemateg ( 1914 ). Gan fod ganddo galon wan caniatawyd iddo orffen ei astudiaethau ar waethaf y rhyfel. Graddiodd yn 1917 gydag anrhydedd dosbarth I mewn Mathemateg Bur a dosbarth II mewn Mathemateg Gymhwysol. Bu'n cydweithio dros dro ar broblemau ynglŷn â sefydlogrwydd awyrennau gyda'r Athro Bryan a Dr Selig Brodetsky o Fryste . Ym mis Hyd. 1917 ymunodd â staff Adran Aerodynameg y Labordy Ffisegol Genedlaethol yn Teddington , ac yno y bu nes ymddeol. Yr oedd yn aelod amlwg o Eglwys Gynulleidfaol Kingston gan fod yn arbennig o weithgar yn yr Ysgol Sul . Bu'n drysorydd cangen Llundain o'r Hen Fangoriaid am flynyddoedd, a dychwelai'n aml i Gymru . Ni bu'n briod a bu f. 27 Ion. 1963 yn Teddington , lle y bu'n byw gydag Enid ei chwaer.

Ar waith damcaniaethol a gwaith twnel gwynt ar awyrlongau y dechreuodd Dan Williams yn y Labordy Ffisegol , gan gydweithio â Robert Jones (gw. uchod) , ond symudodd yn fuan at astudiaeth twnel gwynt o berfformiad awyrennau . Y pryd hynny yr oedd y damcaniaethau cyffredinol a orweddai dan astudiaethau adenydd awyrennau yn dal i fod yn destun dadleuol. Yn 1924 cyflawnodd Williams ac L.W. Bryant arbrofion sylfaenol a gadarnhaodd, ymysg pethau eraill, ddeddf Kutta a Jonkowsky a gysylltai gyfodiad yr aden â chylchrediad yr awyr o'i chylch. Cyhoeddwyd y gwaith pwysig hwn yn y Phil. Trans. Roy. Soc. ( 1925 ). Yn dilyn colli'r awyrlong R. 101 yn 1930 dychwelodd Dan Williams at waith ar awyrlongau . Ar gais y Llys Ymchwil gwnaeth ef ac A. R. Collar gyfrifiad, gam wrth gam, i bennu llwybr ehediad terfynol yr awyrlong . Cymerodd y gwaith anferth hwn tua 9 mis o ddefnyddio dulliau cymharol gyntefig o gyfrifiaduro a oedd ar gael ar y pryd ac esgorodd ar ddyfarnu Gwobr Goffa R. 38 y Royal Aeronautical Society iddo. Derbyniodd Williams hefyd ddiolch Syr John Simon , cadeirydd y Llys Ymchwil , am ei waith. Am ran helaeth o'i yrfa ddilynol bu'n cynnal arbrofion gan ddefnyddio'r twnel awyr cywasgedig yn y Labordy Ffisegol (gw. dan Robert Jones uchod) . Yn ychwanegol at bapurau mewn cyfnodolion gwyddonol yr oedd yn awdur 36 o Adroddiadau a Memoranda a gyhoeddwyd gan yr Aeronautical Research Council gan hyrwyddo'n sylweddol dwf aerodynameg.

Llyfryddiaeth:

  • Aeronautical Research Council Reports and Memoranda , Rhif 2570;
  • The Old Bangorian , Bangor , 1963 ;
  • gwybodaeth gan Miss Margaret G. Jones a'r Athro A. R. Collar ;
  • llsgrau. C.P.G.C., Bangor.

Awdur:

Dennis John Wright, Bangor