WILLIAMS, OWEN HERBERT (1884 - 1962), llawfeddyg ac athro llawfeddygaeth

Enw: Owen Herbert Williams
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1962
Priod: Ethel Kenrick Williams (née Thomas)
Rhiant: Jane Williams
Rhiant: Owen Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg ac athro llawfeddygaeth
Maes gweithgaredd: Addysg; Meddygaeth
Awdur: Emyr Wyn Jones

Ganwyd 2 Ionawr 1884 ym Modrwnsiwn, Llanfaelog, Môn, yn fab i Owen a Jane Williams, teulu o dras amaethyddol. Bu'r tad farw cyn i'r bachgen gyrraedd blwydd oed, ac ar hyd ei oes talai deyrnged i ymdrechion dygn ei fam i sicrhau addysg iddo. Ar ôl gorffen yn ysgol Llanfaelog aeth i ysgol ramadeg Beaumaris, ac oddi yno i Brifysgol Caeredin i astudio meddygaeth, a graddiodd M.B., Ch.B., yn 1906. Daeth yn F.R.C.S. (Caeredin) yn 1909, ac yn F.R.C.S. (Lloegr) yn 1923. Dechreuodd ei gysylltiad â'r Ysbyty Brenhinol Deheuol yn Lerpwl yn 1908, a pharhaodd yn ddi-fwlch (ar wahân i'w dymor gyda'r R.A.M.C. yn ystod Rhyfel Byd I) hyd ei ymneilltuad o'r swydd fel ei phrif lawfeddyg yn 1945. Yn ystod y blynyddoedd cynnar bu'n ddarlithydd mewn anatomeg ym Mhrifysgol Lerpwl, ac yn ddiweddarach mewn llawfeddygaeth; ac o 1939 hyd 1945 ef oedd yr Athro yn y pwnc yma. Yr oedd yn ŵr o natur hynaws a graslon, ac yn rhinwedd ei ddoniau meddygol disglair daeth ei enw, ac enw'r ysbyty, yn adnabyddus iawn trwy ogledd Cymru. Bu'n weithgar am flynyddoedd fel aelod o Fwrdd Ysbytai Cymru, a chymerodd ran amlwg gyda Choleg y Brifysgol ym Mangor lle y bu'n is-lywydd am gyfnod. Bu hefyd yn aelod o gyngor Ysgol Feddygol Cymru. Ar ôl ymddeol treuliodd lawer o'i amser yn Rhosneigr ac yr oedd i Fôn le cynnes iawn yn ei galon. Yn 1952 derbyniodd radd D.Sc. er anrhydedd, gan Brifysgol Cymru.

Yn 1916 priododd ag Ethel Kenrick Thomas, merch William Thomas, perchen llongau o Lerpwl. Bu hi'n gymorth arbennig iddo oherwydd bregus ddigon oedd ei iechyd am y deng mlynedd ar hugain olaf o'i oes. Bu iddynt ferch a dau fab. Bu farw 6 Mawrth 1962 yn ei gartref yn Lerpwl, ac fe'i claddwyd ym mynwent Bryndu, Llanfaelog, 10 Mawrth 1962.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.