WILLIAMS, Syr EVAN, BARWNIG (1871 - 1959), perchennog glofeydd

Enw: Evan Williams
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1959
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: perchennog glofeydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Graeme Holmes

Ganwyd 2 Gorffennaf 1871, yn fab i Thomas Williams, Llwyn Gwern, Pontarddulais, Morgannwg, perchennog glofeydd. Wedi derbyn ei addysg yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, a Choleg Clare, Caergrawnt, dychwelodd i Sir Gaerfyrddin yn 1892 i gynorthwyo yng nghwmni glofeydd ei dad. Wedi'i ethol yn gadeirydd Cymdeithas Perchnogion Glofeydd sir Fynwy a De Cymru yn 1913 bu'n amlwg am gyfnod hir yn y diwydiant glo yn Ne Cymru a ledled Prydain. Fel aelod o Gomisiwn 'Sankey' ar y Diwydiant Glo yn 1919 yr oedd yn ffigur allweddol yn ystod blynyddoedd cythryblus 1919-21 ac 1925-26, yn bennaf ar gyfrif ei safle yn llywydd Cymdeithas Mwyngloddio Prydain Fawr, swydd yr etholwyd ef iddi yn 1919 ac a ddaliodd am gyfnod unigryw o 25 blynedd. Yr oedd yn negydwr cadarn a lwyddodd i sicrhau cyflogau ac oriau gwaith rhanbarthol yn hytrach na'r cytundeb cyflogau cenedlaethol a geisiai Cynghrair Glowyr Prydain Fawr.

Parhaodd yn rheolwr gweithredol y busnes teuluol, Thomas Williams and Sons (Llangennech) Ltd. hyd ganol y 1940au a daeth yn gyfarwyddwr rhai cwmnïau masnachol a diwydiannol mawr megis Powell Duffryn, Rhymney Iron and Coal, Welsh Associated Collieries, Great Western Railway a Banc Lloyd. Bu'n un o is-lywyddion Cynghrair Diwydiannau Prydain a gwasanaethodd ar nifer o gyrff swyddogol neu dechnegol yn gysylltiedig â'r diwydiant glo.

Priododd yn 1903 â Charlotte Mary, merch David Lockie, Y.H., Montrose. Ni fu iddynt blant. Yn 1922-23 bu'n Uchel siryf Sir Gaerfyrddin ac yna'n ddirprwy-raglaw, yn Y.H. dros y sir, ac yn farwnig yn 1935. Bu farw 3 Chwefror 1959.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.