WILLIAMS, ROBERT DEWI (1870 - 1955), gweinidog (MC), prifathro Ysgol Clynnog a llenor

Enw: Robert Dewi Williams
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1955
Priod: Helena Jones Williams (née Davies)
Rhiant: Elizabeth Williams
Rhiant: Isaac Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC), prifathro Ysgol Clynnog a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 29 Rhagfyr 1870 yn Llwyn-du Isaf, Pandytudur, Sir Ddinbych, mab Isaac ac Elizabeth Williams. Bu'n ddisgybl yn ysgol Frytanaidd ei fro (Ysgol Blaenau Llangernyw, neu Ysgol y Pandy), cafodd ddeufis o addysg yn ysgol ramadeg ei gâr, Robert Roberts ('Y Sgolor Mawr '; 1834 - 1885), yn Llanfair Talhaearn; bu mewn ysgol yn Llandudno ar ôl hynny, ac yn ysgol baratoawl y Bala - yno y dechreuodd bregethu. Bu am ysbaid yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, ac yna cafodd bedair blynedd o gwrs anrhydedd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (lle graddiodd). Ordeiniwyd ef yn 1900, a bu'n gweinidogaethu yng Nghesarea, Llandwrog, Arfon (1898-1904) ac yn Jerusalem, Penmaen-mawr (1904-17). Penodwyd ef, yn 1917, yn brifathro Ysgol Clynnog, a pharhaodd yn y swydd ar ôl symud yr ysgol i Goleg Clwyd, Y Rhyl; yno y bu hyd nes iddo ymddeol yn 1939. Bu'n byw yn Rhuddlan ym mlynyddoedd olaf ei oes. Perchid ef yn fawr gan ei fyfyrwyr. Y mae'n amlwg ei fod yn athro campus oherwydd ei wybodaeth o'r clasuron a phynciau eraill; hyfforddodd ddegau o fechgyn - rhai ohonynt yn ddigon anaddawol - oedd â'u bryd ar y weinidogaeth. Yr oedd ef ei hun yn bregethwr cymeradwy iawn, a chofid yn hir am ei gyffelybiaethau byw a bachog. Dyrchafwyd ef i gadair Sasiwn y Gogledd yn 1950. Yr oedd yn llenor gloyw hefyd, a chanddo reddf at rin geiriau ac ymadroddion. Cyhoeddwyd ei stori-fer hir, ' Y Clawdd terfyn ', yn rhifyn cyntaf Y Beirniad, a'i chyhoeddi ar ôl hynny yn Clawdd Terfyn, straeon a darluniadau yn 1912 (ail arg. 1948); fe'i cyfrifir ef yn arloesydd y math yna o stori yn y Gymraeg. Ysgrifennodd hefyd i'r cylchgronau, a chasglwyd rhai o'i ysgrifau o'r Drysorfa dan y teitl Dyddiau mawr mebyd yn 1973. Priododd 1908 Helena Jones Davies, a ganwyd un mab o'r briodas. Bu farw 25 Ionawr 1955 yn Rhuddlan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.