WILLIAMS, Syr GEORGE CLARK (1878 - 1958), BARWNIG a barnwr llys sirol

Enw: George Clark Williams
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1958
Rhiant: Martha Williams
Rhiant: Samuel Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: BARWNIG a barnwr llys sirol
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Dewi Watkin Powell

Ganwyd yn Llanelli, Caerfyrddin, 2 Tachwedd 1878, yn bedwerydd plentyn Samuel a Martha Williams. Yr oedd ei dad yn un o berchnogion cwmni gwerthu coed a chwmni alcam mwyaf y dref honno yn ei hanterth ddiwydiannol, sef Gwaith yr Old Lodge. Bu ewythr a chefnder iddo'n Uchel Siryfion y sir, a pherthynas iddo oedd Samuel Williams, un o feddygon y dref a waddolodd ysgoloriaethau i fyfyrwyr olraddedig Prifysgol Cymru. Annibynwyr selog oedd y teulu a phileri'r achos Saesneg yn Eglwys y Parc.

Cafodd George Clark Williams ei addysg gynnar yn Llanelli ac mewn ysgol breswyl yn Bishop's Stortford. Aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth ac yn 1898 derbyniodd radd B.A. o Brifysgol Llundain. Wedi prentisiaeth yn y gyfraith, cafodd ei dderbyn yn dwrnai gan ymuno yn 1902 â chwmni Roderick Richards a Williams, Llanelli, lle y bu am 6 blynedd nes penderfynu mynd yn fargyfreithiwr. galwyd ef i'r Bar yn 1909 gan y Deml Fewnol ac ymunodd â Chylchdaith De Cymru a Chaer, gan ymsefydlu yn siambrau prysur Trevor Hunter yn Abertawe. Ar ôl gwasanaethu fel swyddog ym mhedwerydd bataliwn y Gatrawd Gymreig trwy gydol Rhyfel Byd I, ailgydiodd yn ei waith a magodd bractis helaeth fel arbenigwr yn ymwneud â'r Deddfau Iawndal i Weithwyr, profiad a fu o werth mawr iddo ar y fainc ymhen blynyddoedd. Yn 1934 symudodd i Lundain am gyfnod byr pan gafodd ei wneud yn Gwnsler Brenhinol, ond yn 1935 apwyntiwyd ef yn Farnwr Llys Sirol yng nghanolbarth Morgannwg ac yno y bu am 13 blynedd nes derbyn swydd dirprwy Gomisiynydd Yswiriant Cenedlaethol. Ymddeolodd yn 1950.

Aflwyddiannus fu fel ymgeisydd seneddol (Rh.) yn etholaeth Llanelli yn 1922 ac ni chymerodd ran bellach mewn gwleidyddiaeth. Ef oedd Arglwydd Raglaw sir Gaerfyrddin 1949-53. Bu'n aelod o gyngor Coleg y Brifysgol, Abertawe, o 1943 tan ei farwolaeth ac yn is-lywydd y coleg am y ddwy fl. olaf o'i oes. Derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1956. Y flwyddyn cyn hynny cafodd ei wneud yn farwnig. Bu farw yn ddibriod ar 15 Hydref 1958 a daeth y teitl i ben.

Ar un adeg, bu ei fryd ar fynd i'r weinidogaeth ac er mai i fyd y gyfraith y trodd, daliodd gysylltiad agos â chapel trwy gydol ei oes. Dylanwadodd ei fagwraeth ar aelwyd grefyddol yn drwm arno yn ei ymddygiad fel bargyfreithiwr a barnwr. Yr oedd ei gwrteisi yn ddiarhebol a'i amynedd mewn llys a phwyllgor yn ddiball. Hoffai blant ac yr oedd yn hael ei gymwynas. Fel barnwr, yr oedd yn fawrfrydig, dawn a amlygwyd yn arbennig adeg Rhyfel Byd II pan eisteddai o bryd i'w gilydd fel cadeirydd rhai o Dribiwnlysoedd Gwrthwynebwyr Cydwybodol y de.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.