WILLIS, ALBERT CHARLES (1876 - 1954), llywydd Plaid Lafur Awstralia

Enw: Albert Charles Willis
Dyddiad geni: 1876
Dyddiad marw: 1954
Priod: Alice Maud Willis (née Parker)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llywydd Plaid Lafur Awstralia
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 24 Mai 1876 yn Nhonyrefail, Morgannwg. Addysgwyd ef yn ysgol y bwrdd, Bryn-mawr, Coleg y Brenin, Llundain, a Choleg Ruskin, Rhydychen. Yr oedd yn gweithio fel glôwr yn Sir Forgannwg pan benderfynodd ymfudo i Awstralia yn 1911. Sicrhaodd waith iddo'i hun fel glôwr a dangosodd ddiddordeb dwfn yng ngweithgareddau'r undebau llafur. Dewiswyd ef yn 1913 yn llywydd cymdeithas glowyr Illawarra, New South Wales. Rhwng 1916 ac 1925 ef oedd ysgrifennydd cyffredinol cyntaf yr Australian Coal and Shale Employees' Federation. Yn 1923 sefydlodd y papur Llafur Labor Daily yn Sydney a bu'n un o'i gyfarwyddwyr. Yr oedd hefyd yn llywydd Plaid Lafur Awstralia, New South Wales, 1923-25. Daeth yn aelod o gyngor deddfwriaethol New South Wales yn 1925 a pharhaodd yn aelod hyd 1933. Penodwyd ef yn Gynrychiolydd Cyffredinol ar gyfer New South Wales yn Llundain yn 1931, ond dychwelodd i Awstralia pan ddaeth ei swydd i ben y flwyddyn ganlynol. Sicrhaodd swydd yn yr Awdurdod Canolog am Lo yn 1943, a rhwng 1944 ac 1947 ef oedd Comisiynydd Cymodi'r Gymanwlad a'r Awdurdod Diwydiannol Canolog, swydd a sefydlwyd dan Ddeddf Cynhyrchu Glo (amser rhyfel) 1944. Ymddeolodd yn 1947. Priododd Alice Maud Parker a bu iddynt un mab a dwy ferch. Ymgartrefent yn Bryn Eirw, Gannon's Road, Burraneer Bay, New South Wales. Bu farw 22 Ebrill 1954 mewn ysbyty yn Cronulla ger Sydney.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.