WEBBER, Syr, ROBERT JOHN (1884-1962), newyddiadurwr

Enw: Robert John Webber
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1962
Priod: Jane Bennet Webber (née Perkins)
Plentyn: Joan Suzanne Prichard (née Webber)
Rhiant: Hannah Webber
Rhiant: Charles Webber
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Clive Betts

Ganwyd 14 Tachwedd 1884 yn fab hynaf Charles a Hannah Webber, Y Barri, Morgannwg. Addysgwyd ef yn ysgol sir y Barri ac Ysgol Gwyddoniaeth a Chelfyddyd Caerdydd cyn mynd yn glerc yn swyddfa rheolwr cyffredinol Rheilffordd y Barri. Yn 1908, yn 24 mlwydd oed, yr oedd yn un o 300 o ymgeiswyr am swydd ysgrifennydd preifat yn Stryd y Fflyd i George Riddell (Barwn Riddell yn ddiweddarach), cadeirydd News of the World ac un o brif gyfranddalwyr y Western Mail. Cafodd y swydd pan atebodd mai 'gwaith' oedd ei hamdden. Pan ddaeth angen rheolwr cynorthwyol ar y Western Mail ar gyfer y papurau newydd a'u busnes argraffu eang, crybwyllodd Syr George, cadeirydd y cwmni ar y pryd, enw Robert Webber. Ymhen tair blynedd, yn 32 mlwydd oed, penodwyd ef yn rheolwr cyffredinol y papurau a'r Tudor Printing Works ac, ymhen 3 mis, cafodd ei ethol i'r bwrdd. Yn ddiweddarach daeth yn gyfarwyddwr dros oes a chydreolwr-gyfarwyddwr gyda Syr William Davies (golygydd 1901-31; Bywg., 149), swydd a gadwodd am 32 mlynedd hyd 1955. Yn 1937 etholwyd ef i fwrdd yr Allied (Kemsley yn ddiweddarach) Newspapers, perchnogion y Western Mail. Yn fuan wedi mynd i Gaerdydd gorfu iddo unioni effaith straen y rhyfel ar ddau bapur dyddiol y cwmni, y Western Mail a'r Evening Express. Yn 1928 goruchwyliodd uno cwmni'r Western Mail Cyf. a David Duncan a'i Feibion, cyhoeddwyr y papurau a gystadlai â hwy yng Nghaerdydd, y South Wales Daily News a'r South Wales Echo, gyda'r bwriad o ddiddymu'r Express a'r News a oedd yn rhedeg ar golled. Bygythiad Arglwydd Rothermere i gychwyn trydydd papur hwyrol yn y ddinas a'u gorfododd i uno, ond fel y digwyddodd, llwyddodd y cwmni newydd i gadw'r Express i fynd hyd 1930. Bu gan Robert Webber lais yn y penderfyniad i ddal ati i gyhoeddi'r Western Mail adeg y streic gyffredinol a chyflogi staff heb eu hyfforddi, gan mwyaf. Disgrifid ef fel meistr cyfiawn ond caled, er na ddisgwyliai i neb wneud dim na fuasai ef ei hun yn barod i'w wneud; canmolid ef am gefnogi gohebwyr ifainc. Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd masnachol de Cymru; bu'n sylfaenydd a llywydd Clwb Busnes Caerdydd am 39 mlynedd, hyd ddiwedd ei oes. Ac yntau'n adnabyddus trwy Brydain ym maes newyddiaduraeth (ymhlith safleoedd eraill bu'n llywydd y Newspaper Society, 1926-27, a chadeirydd y Press Association, 1932-33). Dangosai hefyd y gofidiai'n fawr am adfywio de Cymru adeg y dirwasgiad. Yn 1936 penodwyd ef yn un o wyth cyfarwyddwr cwmni newydd y South Wales Trading Estate Co. Ltd. (a ddatblygodd Ystad Fasnachu Trefforest) ac, yn 1948, yn gyfarwyddwr Wales and Monmouthshire Estates Ltd. Ymhlith ei gynlluniau yr oedd un yn 1937 i wneud priffordd o dde i ogledd Cymru er mwyn cyflogi glowyr di-waith ac atal yr ymfudo i Loegr. Yn y blynyddoedd cyn Rhyfel Byd II yr oedd yn gefnogwr pybyr i ddiwydiannau ifainc y drafnidiaeth awyr a moduron. (Rhif un o'i geir yn ddiweddarach oedd ANY 1). Yr oedd yn aelod o'r Seiri Rhyddion; yn 1947 etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas Geidwadol Ganolog Caerdydd; ac urddwyd ef yn farchog yn 1934. Priododd, 30 Rhagfyr 1911, Jane Bennet Perkins, Casgwent (bu farw 26 Mehefin 1963) a bu iddynt un ferch. Bu ef farw 18 Rhagfyr 1962.

FRANK EDWARD WEBBER (1893 - 1963), rheolwr cyffredinol y Western Mail and Echo Ltd. Diwydiant a BusnesArgraffu a Chyhoeddi;

Ganwyd 8 Hydref 1893, yr ieuengaf o dri mab Charles a Hannah Webber. Addysgwyd ef yn ysgol sir Y Barri a Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Ymunodd â'r fyddin ym mis Awst 1914, cafodd gomisiwn ym mis Awst 1916 a'i wneud yn lifftenant yn Ail Fataliwn y South Wales Borderers; clwyfwyd ef ddwywaith, gan adael ei fraich chwith yn rhannol ddiffrwyth. Ar ôl ei ryddhau o'r fyddin dychwelodd i astudio'r clasuron, hanes a mathemateg ac ennill gradd B.A. Daeth yn gymrawd o'r Sefydliad Siartredig i Ysgrifenyddion yn 1926, a phenodwyd ef yn rheolwr cyffredinol y Western Mail and Echo yn 1940, yn gyfarwyddwr yn 1946, ac yn is-gadeirydd yn 1959. Ymddeolodd yn 1960. A chanddo ddiddordeb dwfn mewn addysg yng Nghymru, yr oedd yn aelod o Lys Prifysgol Cymru a Chyngor Coleg y Brifysgol, Caerdydd. Yr oedd hefyd yn weithgar iawn yn myd busnes a gyda llawer o achosion da yn ne Cymru. Cafodd O.B.E. yn 1946 am ei waith dros Bwyllgor Cynilo Caerdydd. Yr oedd ei briod, Edith Clarissa (bu farw 1984) yn athrawes, a bu iddynt un mab. Bu farw 21 Ebrill 1963.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.