WATKIN-JONES, ELIZABETH (1887 - 1966), awdur llyfrau i blant

Enw: Elizabeth Watkin-jones
Dyddiad geni: 1887
Dyddiad marw: 1966
Priod: John Watkin-Jones
Rhiant: Jane Parry
Rhiant: Henry Parry
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdur llyfrau i blant
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Bedwyr Lewis Jones

Ganwyd 13 Gorffennaf 1887 yn Nefyn, Sir Gaernarfon, yn unig ferch Henry a Jane Parry. Capten llong oedd ei thad a bu foddi yn Ne America cyn i'w ferch ei weld. Cafodd ei haddysg yn ysgol Nefyn, ysgol sirol Pwllheli ac yn y Coleg Normal, Bangor, a bu'n athrawes plant bach yn Aberdâr, Onllwyn, Porthmadog, Trefriw, a Nefyn. Priododd â John Watkin-Jones yn Chwefror 1916. Ar ôl Rhyfel Byd I bu'n byw am gyfnod byr yn Merthyr cyn dychwelyd i Nefyn yn 1920 pan benodwyd ei gŵr yn brifathro yno.

Dechreuodd ysgrifennu storïau yn Saesneg i gylchgronau plant fel Chuck's Own, Bubbles, a Fairyland Tales, cyn troi i ysgrifennu yn Gymraeg. Rhwng 1939 ac 1949 enillodd amryw byd o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am nofelau a straeon a dramâu byrion i blant; cyfrannodd lawer i Tywysydd y plant, Trysorfa'r plant, Y Winllan, Cymru'r plant, Yr Athro, ac yn arbennig i'r comic Hwyl; lluniodd hylltod o sgriptiau ar gyfer rhaglenni plant y B.B.C., a dramâu byrion ar gyfer plant capel Soar (A.), Nefyn. Heblaw Pwt a Moi (1953), Onesimus (1947) a thri llyfryn arall o ddramâu byrion a gyhoeddwyd yn 1947, cyhoeddodd saith nofel neu stori hanesyddol ar gyfer plant - Plant y mynachdy (1939), ei ffefryn hi ei hun, Luned bengoch (1946), Y cwlwm cêl (1947), Y Dryslwyn (1947), Esyllt (1951), Lois (1955), a ' Lowri ' yn Storïau ias a chyffro (1951). Mae pob un o'r rhain, ac eithrio Y Dryslwyn, wedi ei lleoli yn ardal Nefyn, ac yn sicrhau i'r awdur ei lle ymhlith prif awduron llyfrau i blant yn Gymraeg.

Bu farw ar 9 Mehefin 1966 a llosgwyd ei chorff yn amlosgfa Bae Colwyn, lle mae ei llwch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.