Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WATERHOUSE , THOMAS ( 1878 - 1961 ), diwydiannwr a gŵr cyhoeddus ; g. 21 Mawrth 1878 yn Nhreffynnon, Ffl. , yn ail fab i Thomas Holmes Waterhouse , Bradford a Threffynnon , diwydiannwr . Addysgwyd ef yn yr Oswestry High School o dan Owen Owen . Ar farwolaeth ei dad yn 1902 syrthiodd cyfrifoldeb yr Holywell Textile Mills ar ei ysgwyddau a rhwng 1909 ac 1957 bu'n rheolwr , cyfarwyddwr a chadeirydd y cwmni. Yn 1920 daeth yn llywydd y Welsh Textile Manufacturing Association ac yn ddiweddarach bu'n aelod ymroddgar o bwyllgor Prifysgol Cymru i geisio hybu'r diwydiant. Yn 1943 etholwyd ef yn gadeirydd y North Wales Industrial Development Council . Bu'n flaenllaw iawn mewn llywodraeth leol . Yn 1905 etholwyd ef ar gyngor rhanbarth drefol Treffynnon ac erbyn 1919 yr oedd ar y cyngor sir , prif faes ei weithgarwch. Crewyd ef yn henadur y cyngor sir yn 1931 a bu'n gadeirydd tra effeithiol o 1938 hyd 1940 . Penodwyd ef yn Ustus Heddwch yn 1920 ac yn is-gadeirydd llys y Sesiwn Chwarter yn 1945 . Yn 1942-43 ef oedd uchel siryf sir y Fflint ac yn 1945 gwnaed ef yn C.B.E .

Yr oedd yn Rhyddfrydwr i'r carn ac yn wrthwynebus i'r Rhyddfrydwyr hynny a ymunodd mewn clymblaid o dan Lloyd George yn 1918 , ond erbyn 1933 enynnodd gymeradwyaeth wresog Lloyd George am fynegi'n ddifloesgni mai dyletswydd Rhyddfrydwr ydoedd gadael y Llywodraeth Goalisiwn . Yn ystod Rhyfel Byd II yr oedd yn frwd o blaid yr ymgais i gael ysgrifennydd gwladol i Gymru a phasiwyd ei gynnig i'r perwyl yn unfryd gan gynhadledd yr awdurdodau lleol yn Amwythig ym Meh. 1943 .

Yr oedd Thomas Waterhouse yn enghraifft dda o ŵr o gyff cwbl Seisnig a wreiddiodd yng Nghymru ac a'i gwasanaethodd yn ddeheuig a diflino. Gan nad oedd achos gan y Wesleaid Saesneg yn Nhreffynnon , ymunodd aelodau'r teulu â'r Annibynwyr Saesneg a buont yn gefn sylweddol i'r achos. Cymen ac urddasol yn ei ymarweddiad allanol, yr oedd gan Thomas Waterhouse feddwl clir, gwydn a theg, a sylweddolai'r sawl a'u hadnabu'n dda fod ganddo hefyd galon gynnes a hiwmor byw. Gŵr eofn, egwyddorol, annibynnol ydoedd a chynhaliodd am dros hanner canrif y safonau uchaf ym mywyd cyhoeddus ei sir a'i wlad. Pr. Doris Helena Gough , Olton , swydd Warwick , yn 1915 a bu iddynt bedwar mab ac un ferch. Bu f. 3 Gor. 1961 . Ceir darlun ohono yn swyddfa cyngor sir y Fflint , yr Wyddgrug , ac un yng nghartref ei fab, Syr Ronald Waterhouse , Barnwr yr Uchel Lys .

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? ;
  • papurau D. Lloyd George yn Nhŷ'r Arglwyddi (G/34/1/12);
  • gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Yr Athro John Gwynn Williams, M.A., Caerlleon Fawr / Bangor