WALKER-HENEAGE-VIVIAN, ALGERNON (1871 - 1952), llyngesydd

Enw: Algernon Walker-heneage-vivian
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1952
Priod: Beryl Walker-Heneage-Vivian (née Stanley)
Priod: Helen Mary Walker-Heneage-Vivian (née du Boulay)
Plentyn: Rhoda Walker Heneage
Plentyn: Anne Walker Heneage
Plentyn: Mary Walker Heneage
Rhiant: Henrietta Letitia Victoria Heneage (née Vivian)
Rhiant: Clement Walker Heneage
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyngesydd
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Donald Moore

Ganwyd 4 Chwefror 1871 yn drydydd mab i'r Uchgapten Clement Walker Heneage, V.C., 8fed Hussars, o Compton Bassett, Wiltshire, a Henrietta Letitia Victoria, merch John Henry Vivian, Singleton, Abertawe. Priododd (1) yn 1912 Helen Mary, merch y Capten E. de V. du Boulay, gynt o'r R.H.A. a bu iddynt dair merch, Mary, Anne a Rhoda (ysgariad, 1931); priododd (2) yn 1931 Beryl, merch T. Stanley, Caerdydd. Mabwysiadodd yr enw Walker-Heneage-Vivian trwy Drwydded Frenhinol yn 1921. Addysgwyd ef yn Evelyn's ac yn Stubbington, Hampshire. Yn 1886, yn 15 mlwydd oed, cychwynnodd ar yrfa yn y Llynges Frenhinol, gan ymuno â HMS Triumph fel Midshipman, o dan reolaeth y Llyngesydd Syr Algernon Heneage, perthynas iddo. Dechreuodd arbenigo mewn dulliau o ymosod ar longau tanfor pan oedd yn gwasanaethu yn HMS Royal Arthur yn y Môr Tawel. Enillodd ddyrchafiad buan, gan fynd yn gomander yn 1900 yn 29 mlwydd oed. Gwasanaethodd mewn amryw rannau o'r byd, gan gynnwys gogledd Tseina. Bu'n is-reolwr catrawd y Llynges a ddanfonwyd gan HMS Powerful i amddiffyn Ladysmith yn Ne Affrica, ac fe'i cymeradwywyd mewn cadlythyrau. Effeithiodd y gwarchae ar ei iechyd, a bu'n ddifrifol sâl am gyfnod. Yn 1907 dyrchafwyd ef yn gapten ar HMS Hyacinth, llong gosod ffrwydrynnau. Bu'n bennaeth ar y Sgwadron Cyntaf o longau o'r fath yn 1908. Ar ddechrau Rhyfel Byd I gwasanaethodd yn Ne Môr Iwerydd, ac fel capten HMS Albion cyflawnodd orchwyl dirgel i gludo barrau aur o Dde Affrica i helpu Prydain yn y rhyfel. Wedyn cafodd y dasg o gynorthwyo'r Llynges yng nglaniadau Gallipoli (fe'i cymeradwywyd ddwywaith), ac o 1915 hyd 1916 bu'n gomodôr yn gyfrifol am longau bychain, gan gynnwys 160 o longau crynhoi ffrwydrynnau yn nwyrain y Môr Canoldir. Fel comodôr dosbarth cyntaf bu'n gyfrifol am warchae'r Cynghreiriaid dros gulfor Otranto, 1916-17. Yna aeth yn Swyddog Llyngesol Prydeinig Hyn yn yr Eidal a dyrchafwyd ef yn ddirprwy-lyngesydd yn 1918. Bu'n A.D.C. i'r Brenin, 1917-18. Ymddeolodd o wasanaeth gweithredol yn 1920 ar ôl gyrfa hir a disglair. Gwnaeth ei gyfraniad arbennig wrth ddatblygu dulliau ymosod ar longau tanfor ac amddiffyn llongau cyffredinol rhag ffrwydrynnau. Dyrchafwyd ef yn is-lyngesydd yn 1923 ac yn llyngesydd yn 1927.

Wedi ymddeol ymsefydlodd yn Abertawe, yn gyntaf ym Mharc le Breos, Pen-maen, ystad a adawyd iddo gan Graham Vivian. Ond yn fuan etifeddodd Gastell Clun, ar farwolaeth Dulcie Vivian, ac ychwanegodd ' Vivian ' at ei gyfenw. Cymerodd ran helaeth ym mywyd masnachol, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal. Bu'n gyfarwyddwr a chadeirydd cwmni'r teulu, Vivian & Sons Ltd. (cynhyrchwyr metelau anfferrus), ac yn gadeirydd Banc Cynilo Deorllewin Cymru. Bu'n Ustus Heddwch, Dirprwy Raglaw Morgannwg ac yn 1926 yn Uchel Siryf Morgannwg. Bu'n gyrnol anrhydeddus uned y T.A. Amlygodd ei ddiddordeb mewn garddwriaeth wrth ofalu am ei erddi ei hun a thrwy ymuno â'r Garden Society a'r Rhododendron Society. Bu'n sylfaenydd a llywydd cyntaf Cymdeithas Bro Gwyr (The Gower Society). Derbyniodd anrhydeddau niferus, gan gynnwys yr M.V.O. (1904), C.B. (1916), Swyddog y Légion d'Honneur, Urdd Codiad Haul Japan (ail ddosbarth), a Swyddog Mawreddog Coron yr Eidal. Yr oedd yn enwog am y croeso brwd a roddai i westeion pwysig yng Nghastell Clun. Bu farw 26 Chwefror 1952. Oherwydd trethi marwolaeth bu'n rhaid gwerthu Castell Clun (a brynwyd gan Goleg Prifysgol Abertawe) a llawer o'i gynnwys. Lluniwyd portread ohono gan Evan Walters yn 1926, a chan Margaret Lindsay Williams yn 1931.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.