WADE-EVANS, ARTHUR WADE (ARTHUR WADE EVANS, 1875-1964), offeiriad a hanesydd

Enw: Arthur Wade Wade-evans
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1964
Priod: Florence May Wade-Evans (née Dixon)
Rhiant: Elizabeth Evans (née Wade)
Rhiant: Titus Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awduron: Mary Auronwy James, Brynley Francis Roberts

Ganwyd 31 Awst 1875 yn Hill House, Abergwaun, Penfro, yn fab i Titus Evans, capten llong, ac Elizabeth (ganwyd Wade) ei wraig. Aeth i ysgol ramadeg Hwlffordd a graddiodd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (1893-96) cyn mynd yn offeiriad a'i ordeinio yn ddiacon yn Eglwys Gadeiriol S. Paul yn 1898. Ar 2 Medi 1899 cymerodd Wade-Evans yn gyfenw ac yn fuan wedyn priododd, 12 Hydref 1899, yn Eglwys S. George, Hanover Square, Llundain, â Florence May Dixon (bu farw 16 Ionawr 1953). Bu iddynt ddwy ferch. Ar ôl bod yn gurad yn Ealing, Oakley Square, Paddington Green, Caerdydd, English Bicknor a Welsh Bicknor (1898-1909), daeth yn ficer France Lynch (1909-26). Yn ystod y cyfnod hwn ymgyrchodd dros ddatgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Bu'n ficer Pottersbury ynghyd â Furtho a Yardley Gobion (1926-32), ac yn olaf yn rheithor Wrabness (1932-57) cyn ymddeol i Frinton-on-sea, Essex, lle y bu farw 4 Ionawr 1964.

Yr oedd yn awdur toreithiog. Cyhoeddwyd erthyglau a llythyron niferus o'i eiddo yn Notes and queries, Celtic Review, Y Beirniad, Guardian, Western Mail, South Wales News, a llawer o gylchgronau a newyddiaduron eraill. Ysgrifennai ar bynciau amrywiol iawn, yn eu plith dafodiaith Abergwaun, materion hynafiaethol, a llestri arian eglwysig, ond fel hanesydd Prydain gynnar y gwnaeth ei gyfraniad pennaf. Credai fod yr hyn a ddysgid gan haneswyr cydnabyddedig ei gyfnod am y goncwest Sacsonaidd a'r modd y gyrrwyd y Brytaniaid ar ffo i'r gorllewin - Cymru a Chernyw - yn anghywir ac yn seiliedig ar gamddeall natur y testun de excidio Britanniae gan Gildas (Bywg., 259). Aeth ati i archwilio a chyfieithu'r dogfennau a thestunau hanes cynnar ei hun mewn ymgais i gynnal ei ddamcaniaeth, gan gyhoeddi, yn fwyaf arbennig, Nennius's 'History of the Britons' (1938), Coll Prydain (1950), a'r esboniad llawnaf o'i ddaliadau The emergence of England and Wales (1956, 1959). Gwnaeth lawer o waith ar hanes yr eglwys Geltaidd, Welsh Christian origins (1934), Parochiale Wallicanum (1911), rhestr ddefnyddiol o eglwysi a chapeli Cymru, ac ar fucheddau'r saint mewn erthyglau yn Y Cymmrodor ac Archaeologia Cambrensis. Cafwyd ganddo ddadansoddiad llawn a chyfieithiad o destun Lladin buchedd Dewi yn Life of St. David (1923) a chyhoeddodd nifer o destunau Lladin a Chymraeg ynghyd â chyfieithiadau Saesneg (a feirniadwyd yn llym mewn rhai adolygiadau) yn Vitae sanctorum Britanniae et genealogiae (1944). Y mae ei Welsh mediaeval law (1909) yn dal yn destun da o Lyfr Cyfnerth, a chyfrannodd erthygl ar gyfraith Hywel i Encyclopaedia Britannica (1929). Daliodd Wade-Evans at ei ddamcaniaethau anuniongred a dadleuai'n fedrus drostynt gydol ei fywyd. Yr oedd yn awdurdod cydnabyddedig ar emynyddiaeth Gymraeg a Saesneg, ac y mae ei lawysgrif o gyfrol arfaethedig o emynau, ' Proper hymns for the Christian year ', yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â'i lawysgrifau eraill a chyfrolau o'i lyfrgell gyda'i sylwadau ar ymyl y ddalen.

JOHN THOMAS EVANS ('Tomos ap Titus', 1 Awst 1869-10 Mai 1940 rheithor

Brawd hŷn iddo, a addysgwyd yn Llanymddyfri, Coleg Diwinyddol Llundain a Choleg S. Ioan, Caergrawnt, yn rheithor Stow-on-the-Wold (1899-1939) a daeth yn adnabyddus am ei wyth cyfrol ar lestri arian eglwysi Cymru a Lloegr. Cedwir nifer o'i lawysgrifau yntau yn LlGC.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.