g.
31 Gorff. 1871
yn ail fab i
John
Vaughan
,
Nannau
,
Dolgellau, Meir.
(bu f.
1900
) ac
Elinor Anne
, merch
Edward
Owen
,
Garthyngharad
,
Dolgellau
. Medrai'r teulu olrhain ei dras o dywysogion Cymreig yr oesoedd canol. Addysgwyd ef yn
Eton
ac yn y
Coleg Milwrol Brenhinol
yn
Sandhurst
. Ymunodd â'r
7th Hussars
yn
1891
, a gwelodd
wasanaeth milwrol
yn yr ymgyrch i ryddhau'r
Matabele
yn
1896
, ym
Mashonaland
yn
1897
ac yn ymgyrch y
Sudan
yn
1898
. Cafodd ei glwyfo yn ystod y
rhyfel yn erbyn y Bweriaid
1899-1901
,
enwyd ef deirgwaith mewn cadlythyrau
, ac enillodd lu o anrhydeddau gan gynnwys y
D.S.O.
yn
1902
. Daeth yn
uchgapten
yn y
10th Hussars
yn
1904
a
rhwng 1911 ac 1914
gwasanaethodd fel
penllywydd
Ysgol Filwrol Netheravon
. Ef oedd yn arwain y
3rd Cavalry Brigade
yn ystod
Rhyfel Byd I
;
enwyd ef mewn cadlythyrau
, enillodd y
C.B.
yn
1915
a
bar i'r D.S.O.
yn
1919
, a daeth yn
Commander Légion d'honneur
. Cafodd ei ddewis i arwain y
1st Cavalry Brigade
yn
1919
, ac ymddeolodd o'r fyddin y flwyddyn ganlynol.
Gwasanaethodd fel
llywydd Cymreig
y
Lleng Brydeinig
yn
1932
, yr oedd yn
arweinydd rhanbarthol
y
Gwarchodlu Cartref
yn ystod
Rhyfel Byd II
, ac yn
ddirprwy lifftenant
sir Feirionnydd
o
1943 hyd 1954
. Fe fu hefyd yn
Ynad Heddwch
yn y sir. Cyhoeddodd gyfrol o hunangofiant,
Cavalry and sporting memoirs
(
1955
), lle ymosododd yn hallt ar arweinyddiaeth
David
Lloyd George
(
Bywg.
2, 39)
yn ystod
Rhyfel Byd I
. Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn
pysgota
a
hela
.
Pr.,
22 Hyd 1913
, â
Louisa Evelyn
, merch hynaf
Capten
J.
Stewart
,
Alltyrodyn
,
Llandysul, Cer.
, a gweddw
Harold P.
Wardell
,
Brynwern
,
Pontnewydd-ar-Wy
. Ni fu iddynt blant. Ymgartrefent yn
Nannau
. Bu f.
21 Ion. 1956
yn ei gartref ar ôl
syrthio oddi ar ei geffyl
.