TREE, RONALD JAMES (1914 - 1970), offeiriad ac ysgolfeistr

Enw: Ronald James Tree
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1970
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Mary Gwendoline Ellis

Ganwyd 30 Mawrth 1914, yn y Garnant, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Frederick George a Susan Tree. Addysgwyd ef yn ysgol yr eglwys, Garnant, ysgol Dyffryn Aman a Choleg y Brifysgol, Abertawe, lle'r aeth gydag Ysgoloriaeth Powis. Cafodd ei radd B.A. (dosb. I) mewn athroniaeth, 1937, M.A. 1939, ac aeth i Goleg Newydd, Rhydychen gydag ysgoloriaeth agored; cafodd radd B.A. (dosb. I), 1939, a B.Litt., 1941. Bu yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, 1939-40. Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 1940, a'i drwyddedu'n gurad Cwmaman, 1940-44; urddwyd ef yn offeiriad, 1941. Bu'n gurad S. Mihangel, Aberystwyth, 1944-46, ac yn gaplan Cymdeithas y Myfyrwyr Anglicanaidd yn y coleg. Yn 1946 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn athroniaeth yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a'i ddyrchafu'n Athro yn 1950. Yr oedd yn brif diwtor a thrysorydd, 1956. Yn 1957 penodwyd ef yn Warden a Phrifathro Coleg Llanymddyfri, i olynu G. O. Williams (Archesgob Cymru 'n ddiweddarach). Gwnaed ef yn ganon Mathri yng nghadeirlan Tyddewi, 1961.

Yn 1966 symudodd i fod yn ficer eglwys y Santes Fair, Hwlffordd, ac yn gyfarwyddwr addysg grefyddol yr esgobaeth. Symudodd i Dyddewi pan ddyrchafwyd ef yn archddiacon Tyddewi yn 1968.

Cyhoeddodd nifer o erthyglau ar bynciau athronyddol a hanesyddol yn Efrydiau Athronyddol, Theology, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes yr Eglwys yng Nghymru, Province, etc. Yr oedd yn aelod o fwrdd golygyddol Efrydiau Athronyddol o 1949 ymlaen.

Bu'n chwaraewr rygbi yn yr ysgol a'r coleg a daliodd ei ddiddordeb yn y gêm; ei hoffter arall oedd gwaith coed. Yr oedd yn ŵr hynaws, ar ei orau'n cyfarwyddo myfyrwyr.

Priododd yn 1944 â Ceridwen, merch G. E. Thomas o Wauncaegurwen, a bu iddynt ferch a mab. Bu farw 28 Tachwedd 1970, a'i gladdu yn Nhyddewi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.