TOMLEY, JOHN EDWARD (1874 - 1951), cyfreithiwr

Enw: John Edward Tomley
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1951
Priod: Edith Florence Tomley (née Soley)
Rhiant: Esther Tomley (née Weaver)
Rhiant: Robert Tomley
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 3 Chwefror 1874 yn fab Robert Tomley ac Esther (ganwyd Weaver), Trefaldwyn. Addysgwyd ef yn Nhrefaldwyn a'r Amwythig; prentisiwyd ef gyda Charles S. Pryce a fu'n glerc tref Trefaldwyn, gan dderbyn clod uchel yn ei arholiad terfynol yn y gyfraith yn 1901; a daeth yn aelod o'r cwmni lleol, Pryce, Tomley a Pryce. Gwasanaethodd fel clerc i nifer fawr o gyrff gweinyddol cyhoeddus yn siroedd Trefaldwyn ac Amwythig. Yn 1950 ef oedd llywydd Cymdeithas Clercod Cynghorau Gweithredol Cymru. Bu'n aelod gweithgar o lawer o gyrff yn ymwneud â iechyd y cyhoedd ac yswiriant; e.e. bu'n aelod o lywodraethwyr, cyngor ac amryw bwyllgorau'r Welsh National Memorial Association a weithiai dros atal, trin a dileu darfodedigaeth. Cymerodd ran amlwg yn sefydlu Cymdeithas Pwyllgorau Yswiriant Cymru, gan ddod yn llywydd y gymdeithas yn ddiweddarach. Yr oedd hefyd yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Anrhydeddwyd ef trwy ei wneud yn C.B.E. yn 1920. Adlewyrchir ei amryfal ddiddordebau yn ei weithiau cyhoeddedig: Place names (c. 1891), Forms of religious worship, The old age pensions act, The Castle of Montgomery (1923), The derating act (1928), a nifer o erthyglau ystadegol.

Priododd, 7 Mai 1902, Edith Florence Soley a bu iddynt un mab a dwy ferch. Bu farw yn ei gartref, The Hollies, Trefaldwyn, 14 Mehefin 1951.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.