THOMAS
,
WILLIAM
(
1891
-
1958
),
Is-ysgrifennydd y Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol
;
g.
27 Tach. 1891
, yn fab i
James
a
Catherine
Thomas
,
Cymer
,
Rhondda, Glam.
Addysgwyd ef yn
ysgol uwchradd Porth
a
Choleg y Brifysgol
yng
Nghaerdydd
lle y cafodd radd
B.Sc.
yn
1911
ac y bu'n
arddangosydd mewn ffiseg
am gyfnod. Yn ystod
Rhyfel Byd I
gwasanaethodd gyda'r
South Lancashire Regiment
, a bu ar
Staff Cyffredinol
yr
Egyptian Expeditionary Force
.
Galwyd ef i'r Bar
gan y
Deml Fewnol
yn
1928
. Ymunasai â'r
gwasanaeth sifil
yn
1914
, ac ymhen y rhawg daeth yn aelod o
Fwrdd Iechyd Cymru
,
1945-51
, ac yn
Is-ysgrifennydd gyda gofal am Swyddfa Gymreig
y
Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol
yng
Nghaerdydd
,
1951
hyd
1954
, pryd yr ymddeolodd. Cyfrannodd erthyglau i'r
Fflam
,
1947
, a cholofn Gymraeg y
Western Mail
(e.e.
25 Tach. 1954
), ac yr oedd yn un o
olygyddion
Bro
,
1954
. Pr. yn
1925
â
Mary Olwen
Davies
,
Ynys-hir
,
Rhondda
a symudodd o'r
Cymer
yn
1938
i
27 Heol Maesycoed
,
Y Waun
,
Caerdydd
. Bu f.
20 Ebr. 1958
.
Llyfryddiaeth:
-
Who was who?
;
-
Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price
(yn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus
Aberdâr)
.
Awdur:
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth