… bod Rhagluniaeth yn siwr o ofalu am Janet fel y gofalodd amdano ef yn y gorffennol. Ni sylweddolodd mai Janet oedd y Rhagluniaeth a'i cadwodd ef, ei dŷ a'i siop mewn trefn ar ôl marw ei wraig.
Y mae ei pherthynas hi â'i theulu yn Llwyni yn un bwysig, fodd bynnag, oherwydd ceir nifer helaeth o gyfeiriadau atynt (heb eu henwi) yn ei gwaith, yn enwedig yn Y Bryniau Pell ac i raddau llai yn Diwrnod yw ein bywyd . Yn wir, y mae nifer o ddigwyddiadau a sefyllfaoedd yn Y Bryniau Pell sy'n hunangofiannol a cheir ganddi sawl cyfeiriad dilornus at bregethu a'r weinidogaeth ac at ei sefyllfa hi ei hun pan oedd yn blentyn amddifad a phobl yn siarad amdani.
Pr. â Richard Thomas , Prif Glerc Adran Addysg Cyngor Sir Dinbych , mewn swyddfa gofrestru yn Bolton ar 5 Ebr. 1952 , pan oedd yn 44 oed. (Trigai chwaer Richard Thomas a'i gŵr yno). Ail wraig ydoedd i Richard Thomas . Cafodd y ddau lety yn Stryd y Farchnad , Rhuthun cyn symud i fyw mewn fflat yn 6 Stryd y Ffynnon . Ymddengys i'r briodas fod yn un hapus, ond ni chawsant blant. (Yr oedd ganddo ddwy ferch o'i briodas gyntaf). Dioddefodd hi gryn salwch. Cafodd lawdriniaeth yng Nghaerdydd ond gwrthododd yn lân â chael llawdriniaeth ar gyfer y cancr y dioddefai ohono. Bu'n rhaid iddi ymddiswyddo yn 1959 oherwydd afiechyd, a symudodd hi a'i gŵr i Garmel , ger Treffynnon yn 1962 ond dychwelodd i Ruthun ddwy fl. yn ddiweddarach, ddau fis ar ôl marw'i gŵr o gancr ar yr ysgyfaint ym mis Medi 1964 , a mynd i fyw i 115 Parc y Dre . Y mae Kate Roberts , yn ei hysgrif goffa yn Y Faner , 1 Chwef. 1968 , yn nodi na welodd Louie Myfanwy ei gŵr cyn iddo farw ac na fu hi yn yr angladd oherwydd ei gwaeledd ei hun.
Bu'n aros gyda Mrs. Bishop , Knapp House , Eardisland ger Llwydlo , am gyfnod tra oedd yn gwella o'r llawdriniaeth a gawsai. Cadwai Mrs. Bishop dafarn o'r enw The White Swan . Yn ôl un hanes, ar hap y daeth o hyd i'r lle: ei bod wedi gofyn i yrrwr bws am le addas i aros ynddo, a bod hwnnw wedi cymeradwyo'r White Swan iddi. Ni ellir gwirio hynny, ond y mae'r lle yn arwyddocaol serch hynny, oherwydd yno, yn ôl y sôn, y dechreuodd Louie Myfanwy ysgrifennu (ond gweler y stori ‘ Lol ’ yn Storïau Hen Ferch ). Gwelsai foch ar waelod yr ardd a dechreuodd ysgrifennu storïau amdanynt ar gyfer plant. (Tybed ai dyma darddiad rhai o storïau Ann a Defi John — ‘ Siw a'r Moch Bach ’ er enghraifft?) Cymharer hefyd y disgrifiad o'r bwthyn ger Amwythig a geir yn Diwrnod yw ein bywyd .
Ysgrifennai Louie Myfanwy Thomas dan yr enw Jane Ann Jones . Enw morwynol ei mam oedd Elizabeth Jane Jones ac mae'n bosibl bod Louie Myfanwy Thomas wedi seilio Jane Ann Jones ar hynny. Ni wyddys a ddaeth Louie Myfanwy Thomas i wybod yn ddiweddarach yn ei bywyd pwy oedd ei mam a gellir amau a fyddai wedi llwyddo i ddod o hyd i'w henw morwynol pe bai hynny o bwys. Mynnai Louie Myfanwy Thomas gadw'i bywyd llenyddol yn gyfrinach ac y mae'r enw Jane Ann Jones yn enw mor ddi-nod a chyffredin fel na fyddai neb yn ei gysylltu â hi. Dywed Kate Roberts yn ei hysgrif goffa yn Y Faner , ‘ Cadwyd yr enw “ Jane Ann Jones ” yn gyfrinach rhwng pedwar ohonom am flynyddoedd maith, ac ni châi neb wybod pwy ydoedd '. Ni wyddai ei theulu na'i chyfeillion, na'i chydweithwyr yn y swyddfa, am ei gyrfa lenyddol am rai blynyddoedd. Gwyddent y byddai'n darllen llawer — âi i'r llyfrgell yn aml i archebu llyfrau newydd a gawsai eu hadolygu yn y Daily Post er enghraifft — ond syndod i'r rhai a'i hadwaenai oedd darganfod ei bod yn awdur .’
Enillodd gan punt am nofel yng nghystadleuaeth Y Cymro yn 1953 (gw. Y Cymro , 30 Hyd. 1953 ). Ei ffugenw oedd ‘ Jini Jos ’ a chyhoeddwyd mai Jane Ann Jones oedd yr enillydd. ‘ Y mae'r gyfrinach i'w chadw ’ medd Y Cymro ynglŷn â hi. (Y beirniaid oedd Islwyn Ffowc Elis , John Roberts Williams a T. Bassett ). Mae lle i gredu y bu'n cystadlu rywfaint yn yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd gyrrodd Diwrnod yw ein bywyd i gystadleuaeth y nofel yn Eist. Gen. Dolgellau 1949 dan y ffugenw Ffanni Llwyd , a chael beirniadaeth arni gan D.J. Williams , Abergwaun (gw. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau , 153). Cyhoeddodd Y Cymro stori fer o'i heiddo ar 9 Ebr. 1954 — ‘ Trwy Ddrych Mewn Dameg ’ — stori a ddisgrifir fel ‘ stori gryno, gyflawn, stori ddwys. Stori grefftus. Stori ddidramgwydd … ’ a bu'n ysgrifennu sgriptiau a dramâu ar gyfer y B.B.C. am tua 10-15 mlynedd ond rhoes y gorau iddi ar ôl i'r B.B.C. ofyn iddi newid neu addasu ei harddull.
Cyhoeddodd y llyfrau canlynol, i gyd o dan yr enw Jane Ann Jones : Storïau Hen Ferch ( Gwasg Aberystwyth , 1937 ); Y Bryniau Pell ( Gwasg Gee , 1949 ); Diwrnod yw ein bywyd ( Hughes a'i Fab , 1954 ); Plant y Foty ( George Ronald , Caerdydd , 1955 ); Ann a Defi John ( Gwasg y Brython , 1958 ).
Yr oedd yn fwriad gan George Ronald , Caerdydd , gyhoeddi cyfres o lyfrau plant, sef ‘ Storïau Ann a Defi John ’. Gwasg y Brython a gyhoeddodd Ann a Defi John ( 1958 ), fodd bynnag. Y mae'n ddiddorol fod George Ronald wedi rhoi llun o Jane Ann Jones ar glawr cefn Plant y Foty , ac wedi enwi ei llyfrau eraill. Daeth y gath allan o'r cwd erbyn 1955 felly! Cofir amdani'n berson gwylaidd a thawel, hynaws a galluog, ond tystir gan rai nad oedd hi'n tybio fod Kate Roberts wedi bod yn garedig ynglŷn â dim a ysgrifennai. Yn ôl a ellir casglu o'i gwaith ei hun yr oedd yn wraig annibynnol ei meddwl a thuedd feirniadol ynddi. Bu f. yn ysbyty Rhuthun 25 Ion. 1968 .
Hedd ab Emlyn, Wrecsam