Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , JAMES PURDON LEWES ( 1903 - 1960 ), IS-IARLL CILCENNIN , A.S. ; g. 13 Hyd. 1903 yn fab i J. Lewes Thomas , Cae-glas , Llandeilo Fawr, Caerf. , a'i wraig Anne Louisa (g. Purdon ) . Addysgwyd ef yn Ysgol Rugby a Choleg Oriel , Rhydychen . Bu'n ymgeisydd (C) dros ranbarth Llanelli yn etholiad cyffredinol 1929 , ond bychan fu'r gefnogaeth iddo; etholwyd ef yn A.S. dros ranbarth Henffordd yn 1931 a chadwodd y sedd tan 1955 . Bu'n ysgrifennydd seneddol preifat mewn nifer o weinyddiaethau, 1930-40 , ac yn arglwydd gomisiynydd y Trysorlys , 1940-43 , ysgrifennydd i'r Morlys , 1943-45 , ac Arglwydd Cyntaf y Morlys , 1951-56 . Bu'n is-gadeirydd y Blaid Geidwadol , 1945-51 , ac yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Rugby yn 1958 . Dyrchafwyd ef yn Is-iarll Cilcennin yn 1955 ac yn farchog yn 1958 . Cyhoeddwyd ei gyfrol Admiralty House, Whitehall dri mis wedi ei f. ar 13 Gorff. 1960 pryd daeth y teitl i ben.

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? , 1951-60 .

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth