Wedi bod yng Ngholeg Paton , Nottingham , ord. ef yn Jerwsalem , Bl. Ffestiniog , 12 Hyd. 1911 . Hwyliodd i'r India 4 Tach. 1911 . Llafuriodd yn galed fel arolygwr nifer fawr o eglwysi yn y taleithiau lle siaredid Telugu . Ar ôl pr. â Hannah E. Mathews ym Madras , buont yn byw yn Cuddapah , Kamalapuram , Goety a Jammalamadugu . Ganed mab a merch iddynt. O 1927 hyd 1938 bu'n gyfrifol am seminâr i hyfforddi efengylwyr brodorol . O 1939 hyd 1949 bu'n ysgrifennydd-drysorydd i'r Gymdeithas Genhadol . Fel Annibynnwr digyfaddawd, bu'n wrthwynebydd i'r Eglwys Unedig er rhoi ei orau ymhob cydweithio.
Ymddeolodd yn 1949 o'r gwaith cenhadol ond derbyniodd ofalaeth eglwys Bresbyteraidd St. Andrews , Bangalore , lle'r oedd eu mab, Iorwerth , yn genhadwr a phennaeth ysgol ramadeg i fechgyn .
Collodd ei olwg yn 1954 . Bu ei briod f. 13 Mai 1964 a bu yntau f. 17 Ebr. 1970 yn Bangalore lle claddwyd hwynt.
Y Parch Huw Ethall, Caerdydd