THOMAS, DAVID EMLYN (1892 - 1954), gwleidydd ac undebwr llafur

Enw: David Emlyn Thomas
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1954
Priod: Bessie Thomas (née Thomas)
Rhiant: James Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd ac undebwr llafur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 16 Medi 1892 ym Maesteg, Morgannwg, yn un o naw o blant. Yr oedd ei dad James Thomas yn frodor o Gilgerran a'i fam o Gastellnewydd Emlyn. Treuliodd gyfnodau byr o'i blentyndod yng Nghilgerran ac Aberteifi. Addysgwyd ef mewn ysgolion cynradd ym Maesteg, a mynychodd ddosbarthiadau nos mewn mwyngloddio ac archwilio pyllau glo gan ennill cymwysterau mewn peirianyddiaeth. Yn 1906, ac yntau'n 13 oed, dechreuodd weithio fel clerc ym mhyllau glo Oakwood a'r Garth, symudodd i bwll glo yn Llantrisant ac yna i bwll glo'r Caerau, Maesteg. Daeth yn swyddog llawn-amser o Ffederasiwn Glowyr de Cymru yn 1919 a gwasanaethodd fel ysgrifennydd i Vernon Hartshorn a Ted Williams (gweler Williams, Syr Edward John). Yn yr un flwyddyn ymunodd â'r Blaid Lafur. Daeth yn ysgrifennydd rhanbarth Aberdâr o'r Ffederasiwn yn 1934, a symudodd ef a'i deulu i fyw i'r ardal. Yn 1936 etholwyd ef gyda mwyafrif llethol yn gynrychiolydd y glowyr yng nghymoedd Merthyr ac Aberdâr yn olynydd i Noah Ablett, a daeth yn aelod ymgynghorol o bwyllgor gwaith rhanbarth de Cymru o Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Yr oedd yn arbenigwr ar yr iawndal a delid i weithwyr.

Ar 5 Rhagfyr 1946 mewn is-etholiad daeth yn A.S. (Ll) dros etholaeth Aberdâr yn olynydd George Hall. Parhaodd i gynrychioli'r sedd hon yn y senedd hyd ei farwolaeth. Ailetholwyd ef gyda mwyafrif o bron 28,000 yn 1951. Yr oedd yn aelod tawel, diymhongar a wasanaethai'i etholwyr yn gydwybodol bob amser. Dewiswyd ef yn gadeirydd ar y grŵp Llafur Seneddol Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1949-50. Y mae ei bapurau gwleidyddol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yr oedd yn Gymro Cymraeg, yn ddiacon ac yn athro ysgol Sul yng nghapel Ebenezer (A), Trecynon, Aberdâr. Yr oedd yn weithgar mewn nifer o gymdeithasau diwylliannol yn y cwm, yn aelod o Undeb Corawl Trecynon ac amryw bwyllgorau eisteddfodol. Garddio oedd un o'i brif ddiddordebau.

Priododd yn 1923 â Bessie Thomas (bu farw 10 Medi 1953), ysgolfeistres ym Maesteg. Bu iddynt fab a dwy ferch. Yn dilyn trawiad ar y galon bu farw 20 Mehefin 1954 yn ei gartref, 65 Broniestyn Terrace, Trecynon, Aberdâr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.