THOMAS, Syr PERCY EDWARD (1883 - 1969), pensaer ac ymgynghorwr ar gynllunio

Enw: Percy Edward Thomas
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1969
Priod: Margaret Ethel Thomas (née Turner)
Plentyn: Norman Thomas
Rhiant: Cecilia Thomas (née Thornton)
Rhiant: Christmas Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer ac ymgynghorwr ar gynllunio
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Norman Percy Thomas

Ganwyd yn South Shields, 13 Medi 1883, yn drydydd mab a phumed plentyn Christmas a Cecilia (ganwyd Thornton) Thomas. Mab fferm o ardal Arberth, Penfro, a aethai i'r môr oedd y tad, ac erbyn geni Percy Edward yr oedd yn gapten ar long hwyliau. Hanai'r fam o Wedmore, Gwlad-yr-Haf. Pan oedd y bachgen yn ddeg oed symudodd y teulu i Gaerdydd, lle'r oedd y fasnach allforio glo lewyrchus yn atyniad i lawer tebyg. Addysgwyd ef yn ysgol breifat Hasland House nes i'w dad farw yn 1897, pan symudwyd ef i ysgol uwchradd Howard Gardens, ond yr oedd wedi gweld y byd yn ieuanc ar fordeithiau bron bob haf gyda'i dad, ac wedi gweld dinasoedd fel St. Petersburgh, Odessa, Istanbul, Genoa, Fiume a phorthladdoedd eraill. Mae'n sicr fod ei brofiadau cynnar wedi lliwio'i yrfa ddiweddarach. Ar y môr y bu'r tad farw, ac yn Leghorn y claddwyd ef. Cafodd y fam le i'r bachgen mewn swyddfa longau yn nociau Caerdydd, ond nid oedd y gwaith yn apelio ato. Cymerodd ficer Llandochau ef at ffrenolegydd a dedfryd hwnnw oedd mai pensaernïaeth oedd yr alwedigaeth briodol iddo. Cymerwyd erthyglau iddo yn swyddfa E. H. Burton, F.R.I.B.A., am bum mlynedd, ond erbyn y bumed teimlai fod ei waith yn teilyngu tâl a chafodd goron yr wythnos yn hytrach na'i ryddhau o'r erthyglau. Mewn cystadleuaeth am gynllun i ysgol uwchradd yng Nghaerdydd curodd ei gynllun ef un ei feistr, ac enillodd y wobr flaenaf am gynllun pensaernïol yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1903. Yn Ionawr 1904 cafodd swydd gan J.C. Prestwich yn Leigh, sir Gaerhirfryn, ond ymhen y flwyddyn symudodd i Gaerfaddon yn gynorthwyydd i R.A. Brinkworth. Ar ôl dwy fl. yn gynorthwyydd yr oedd yn chwilio am swydd fwy cyfrifol ac atebodd hysbyseb â rhif bocs yn unig iddi. Er ei syndod, cafodd ei hun yn ôl gyda J.C. Prestwich fel prif gynorthwyydd iddo.

Yn 1906, symudodd drachefn, y tro hwn at Henthorne Stott ym Manceinion. Bu'n cydweithio ag Ivor Jones, Caerdydd, mewn cystadlaethau agored, ac yn 1911 i'w cynllun hwy ar gyfer coleg technegol yng Nghaerdydd y dyfarnwyd y wobr. Rhoes hynny gyfle iddo i ddychwelyd a mynd i bartneriaeth gydag Ivor Jones yn 1913. Torrwyd ar ei yrfa gan Ryfel Byd I gan iddo ymuno â'r Artists' Rifles yn niwedd 1915. Cafodd gomisiwn yn y 210 Field Company, Royal Engineers, a chafodd ei hun ar y Somme, ac nid yn yr Aifft fel y gobeithiasai. Dyrchafwyd ef yn Staff Officer R.E. XIII Army Corps. Enwyd ef ddwywaith mewn cad negeseuau o'r maes a chafodd yr O.B.E. filwrol.

Wedi ei ryddhau o'r fyddin yn Chwefror 1919 dychwelodd at ei waith yng Nghaerdydd. Yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd enillodd lawer cystadleuaeth agored am gynlluniau pwysig, e.e. gorsafoedd tân a heddlu, Bryste, 1924, Newcastle, 1925, ac Accrington, 1930; canolfannau dinesig Abertawe, 1930, Tunbridge Wells a neuadd tref Swinton a Pendlebury, 1934, y ddwy olaf mewn cydweithrediad ag Ernest Prestwich, Leigh. Yn ychwanegol at ei lwyddiant mewn cystadlaethau agored daeth comisiynau o bwys i'w ran, yn cynnwys swyddfeydd newydd i gyngor sir Morgannwg, adeilad y Deml Heddwch ar gomisiwn uniongyrchol yr Arglwydd Davies - y ddau ym mharc Cathays, Caerdydd - swyddfeydd cyngor sir Gaerfyrddin, a llysoedd heddlu a gorsaf dân Caerwrangon. Edrychid arno fel arbenigwr cydnabyddedig mewn dylunio a chynllunio adeiladau cyhoeddus, a phenodwyd ef yn ymgynghorwr ar gynlluniau dinesig corfforaethau Caerdydd, Aberdeen, High Wycombe, Blackpool, bwrdeistref frenhinol Kensington, a chynghorau sir y Fflint ac Amwythig. Gwahoddwyd ef yn 1935 i ddylunio campws newydd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a gweithredodd fel pensaer i rai o'r adeiladau, gan ddechrau gyda'r adeilad ymchwil amaethyddol a'r pwll nofio (lle y defnyddiwyd carreg y Ddena yn groes i'w gyngor), ac adeilad gwyddor llaeth. Yn 1935 penodwyd ef gan gwmni rheilffordd yr L.M.S. i ailgynllunio gorsaf Euston, ond pan dorrodd y rhyfel allan bu raid rhoi'r gorau i'r cynllun.

Etholwyd ef yn llywydd y Royal Institute of British Architects yn 1935 ac yn 1939 derbyniodd fedal aur frenhinol y sefydliad, un o'r ychydig benseiri a gafodd y ddau anrhydedd. Dyfarnwyd medal efydd yr R.I.B.A. iddo am siop newydd James Howell yng Nghaerdydd, 1930, canolfan dinesig Abertawe, 1935, y Deml Heddwch, 1949, a neuadd tref Swinton a Pendlebury, 1938. Gwnaethpwyd ef yn aelod gohebol anrhydeddus o sefydliad penseiri America yn 1936, a bu hefyd yn llywydd undeb penseiri Ffrainc a Phrydain.

Dirwynwyd y bartneriaeth ag Ivor Jones i ben, drwy gydsyniad o'r ddeutu, yn 1937, a bu'n gweithredu ar ei ben ei hun tan 1946, pryd y cymerodd ei fab, Norman, i bartneriaeth gan ychwanegu William Marsden a Wallace Sweet yn 1952.

Rhoes Rhyfel Byd II ataliad neu ben ar bob cynllun adeiladu cyhoeddus, a thros y cyfnod ymgymerodd Percy Thomas â gwasanaeth llywodraeth yng Nghymru a pharhau hyd ddiwedd y 1950au. Yn 1940 gwahoddwyd ef gan Arglwydd Raglaw Morgannwg i weithredu fel swyddog rhanbarthol y Weinyddiaeth Gyflenwi yng Nghymru, a phan gymerodd yr Arglwydd Beaverbrook at y Weinyddiaeth hon, gwnaethpwyd ef yn rheolwr y rhanbarth. Pan ffurfiwyd Gweinyddiaeth Cynhyrchu yn 1942 daeth yntau'n rheolwr rhanbarthol ac yn gadeirydd bwrdd rhanbarth Cymru, swyddi a ddaliodd hyd derfyn oes y Weinyddiaeth. Gwahoddodd Syr Stafford Cripps ef i barhau fel cadeirydd annibynnol y bwrdd diwydiant Cymreig ac fel aelod o'r National Production Advisory Council. Daeth yn un o ffigurau mwyaf adnabyddus byd diwydiant Cymru a gelwid yn gyson arno i lywyddu cyfarfodydd a phwyllgorau llesiant, cyd-ymgynghoriad, a phroblemau diwydiant modern. Drannoeth apêl Anthony Eden am wirfoddolwyr ymunodd â'r L.D.F. a bu'n brif gynorthwyydd i'r Cyrnol Otto Jones mewn recriwtio i'r corff hwn ym Morgannwg. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn is-gyrnol a chomander 22ain bataliwn Gwarchodlu Cartref Morgannwg.

Yn 1943 etholwyd ef eilwaith yn llywydd y R.I.B.A., peth na ddigwyddodd ond yn achos Syr William Tite a etholwyd am ail dymor yn 1867. Gwasanaethodd y cyngor am ddwy fl. a'i ethol am flwyddyn arall yn 1945; felly daliodd y llywyddiaeth am 5 mlynedd. Ef a fu'n bennaf gyfrifol am gymodi buddiannau'r ymarferwyr preifat a rhai'r corff penseiri swyddogol a oedd erbyn hyn yn y mwyafrif, a thrwy hynny, gyda llaw, y trawsffurfiwyd y sefydliad o fod yn bennaf yn gorff Llundeinig i fod yn un gwirioneddol genedlaethol.

Ef a fu'n gyfrifol am lawer o'r dylunio diwydiannol yng Nghymru ar ôl y rhyfel, e.e. ffatri fawr British Nylon Spinners ym Mhont-y-pŵl, a gorsafoedd pŵer newydd Porth Tywyn ac Aberddawan. Fel pensaer ymgynghorol Cwmni Dur Cymru yr oedd yn gyfrifol gyda'r peirianwyr W.A. Atkins am felinau strip enfawr Aberafan a Llanelli. Ef oedd pensaer ymgynghorol y Weinyddiaeth Drafnidiaeth dros nifer o'u cynlluniau yng Nghymru ar ôl y rhyfel, e.e. pont osgoi Conwy, Pont Hafren, a ffyrdd osgoi Castell-nedd a Chasnewydd. Gwahoddwyd ef gan y peirianwyr Freeman, Fox a'u Partneriaid i'w cynghori ar gynllun pont dros harbwr Auckland yn Seland Newydd. Penodwyd ef yn bensaer ymgynghorol ysbytai unedig Caerdydd, prifysgolion Nottingham, Bryste a Chymru, yr Awdurdod Trydan Prydeinig dros ei holl waith yng Nghymru a Ffederasiwn Diwydiannau Prydain dros ei bencadlys newydd yn Llundain.

Bu'n aseswr ar lawer cystadleuaeth bwysig mewn pensaernïaeth yn yr un cyfnod; y mwyaf diddorol ohonynt oedd un pencadlys y T.U.C. yn Great Russell Street, a chadeirlan Coventry. Fel ymgynghorwr i'r ysbytai yr oedd hefyd yn aseswr yn y gystadleuaeth am gynllun i'r ganolfan feddygol ar y Waun yng Nghaerdydd. Yn 1952 gwnaethpwyd ef yn gyrnol anrhydeddus i'r 109 Army Engineer Regiment (Glam.) RE(TA), catrawd yr oedd ei fab yn brif swyddog arni.

Priododd Margaret Ethel, merch Henry Turner, o Benarth, yn 1906, a bu iddynt un mab, a thair merch. Bu hi farw ym mis Mai 1953. Yn 1961 cafodd yntau afiechyd difrifol ac wedi cyfnod byr fel ymgynghorwr i'r practis ymddeolodd yn 1963. Bregus fu ei iechyd hyd derfyn ei oes ar 17 Awst 1969.

Ar wahân i'w faes arbennig ei hun rhoes wasanaeth gwiw i gymdeithas, a daeth llu o anrhydeddau i'w ran, yn cynnwys LL.D. Prifysgol Cymru yn 1937, a'i urddo'n farchog, 1946. Yr oedd yn ynad heddwch yn ninas Caerdydd o 1946, yn ddirprwy raglaw Morgannwg o 1945, ac yn uchel siryf y sir honno yn 1949-50. Golygodd waith 4 cyfrol dan y teitl Modern building practice, 1936-37, a chyhoeddodd gyfrol hunangofiannol ddiddorol, Pupil to president, yn breifat yn Leigh-on-Sea yn 1963. Am ei weithiau pensaernïol dywedir fod iddynt dair nodwedd arbennig, eu bod yn gymesur, syml, a didwyll.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.