THICKENS, JOHN (1865 - 1952), gweinidog (MC), hanesydd ac awdur

Enw: John Thickens
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1952
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC), hanesydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 9 Mawrth 1865 yn Aber-nant-cwta, Cwmystwyth, Ceredigion, mab i David a Sarah Thickens. Bu farw'i dad pan oedd yn ieuanc, a symudodd y fam a'i theulu i'r Pentre, Cwm Rhondda, ac yno, yn eglwys Nasareth, y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Trefeca. Ordeiniwyd ef yn 1894, a'r un flwyddyn priododd Cecilia Evans o Ddowlais (chwaer Syr David W. Evans); ganwyd iddynt bump o ferched. Bu'n gweinidogaethu yn Libanus, Dowlais (1892-94) a'r Tabernacl, Aberaeron (1894-1907). Yno dechreuodd gyfathrachu â'i ewythr, brawd ei fam, Joseph Jenkins, (1859 1929, a oedd yn weinidog yn y Ceinewydd; ffrwyth y gwmnïaeth honno oedd y cynadleddau yng ngodre Ceredigion a fu'n gychwyniad i Ddiwygiad 1904-05. Symudodd i Lundain yn 1907 i fugeilio eglwys Willesden Green, ac yno y bu nes iddo ymddeol yn 1945. Bu'n treiglo o le i le wedyn - Aberaeron, Castellnedd, Llanwrtyd - gan luestu o'r diwedd yn Leamington Spa. Bu farw yno 29 Tachwedd 1952; hebryngwyd ei lwch o Amlosgfa Caergrawnt i fynwent Hen Fynyw ger Aberaeron.

Yr oedd yn bregethwr nodedig yn nyddiau'i nerth, a châi oedfeuon eirias ar adegau. Cyfrinydd ydoedd wrth natur, ac er cymaint oedd ei ddiddordeb mewn diwinyddiaeth, hanes ac emynyddiaeth, y cyfrinwyr oedd ei hoff fyfyrdod. Bu'n wr amlwg ym mywyd ei Gyfundeb; bu'n llywydd Sasiwn y De (1938), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1945). Cyhoeddodd esboniad ar Lyfr yr Actau yn 1925. Traddododd y Ddarlith Davies (1934), ac fe'i cyhoeddwyd yn gyfrol swmpus yn 1938 dan y teitl Howel Harris yn Llundain. Trwythodd ei hun yn hanes ac ethos Methodistiaeth Galfinaidd Cymru; ef oedd cadeirydd Pwyllgor Hanes y Cyfundeb (1939-52), a chyfrannodd lawer i Gylchgrawn y Gymdeithas Hanes. Ceir ei ysgrifau craff ar y 'tadau' Methodistaidd yn y llyfryn hardd a gyhoeddodd Henaduriaeth Llundain yn 1935 i ddathlu deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd. Bu'n olygydd Y Drysorfa (1929-33), ac ysgrifennodd lawer i'r cylchgrawn hwnnw yn ogystal ag i'r Traethodydd a'r Goleuad. Yr oedd ganddo reddf a thrylwyredd y gwir hanesydd; mynnai fynd i lygad y ffynnon bob amser; ei duedd oedd rhedeg ar ôl ambell ysgyfarnog, a hynny efallai yw gwendid ei Ddarlith Davies. Yr oedd ei arddull bedantig a gor-ramadegol hefyd yn faen tramgwydd i lawer o'i edmygwyr. Bu'n aelod o bwyllgor Llyfr emynau'r Methodistiaid (1927), a chwilotodd lawer ar hanes yr emynwyr a'u cynhyrchion. Ef a baratôdd y llawlyfr poblogaidd ar y casgliad uchod, Emynau a'u hawduriaid (1947; 1961, arg. newydd 'wedi ei ddiwygio, gydag ychwanegiadau', gan Gomer M. Roberts ). Arfaethasai gyhoeddi cofiant i'w ewythr hyglod, Joseph Jenkins, a chyhoeddwyd yr hyn a baratôdd yn Y Drysorfa, 1961-63.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.