Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



STEPHEN , DOUGLAS CLARK ( 1894 - 1960 ), golygydd papur newydd ; g. yn Leicester , 1894 , yn fab i John Thomson Stephen a'i wraig. Cychwynnodd ar ei yrfa newyddiadurol drwy gynorthwyo'i dad fel gohebydd chwaraeon a newyddion cyffredinol i'r Press Association . Ar ôl pum ml. o hyfforddiant ar y Leicester Mail penodwyd ef yn is-olygydd y Sporting Chronicle ym Manceinion , a bu'n gweithio ar y North Star yn Darlington am gyfnod byr cyn dod yn is-olygydd y South Wales Echo yn 1916 . Penodwyd ef yn olygydd y papur hwnnw yn 1922 ar adeg pan oedd cystadleuaeth frwd rhwng y papurau lleol pryd yr unwyd y South Wales News â'r Western Mail , a'r Evening Express â'r South Wales Echo . O dan ei gyfarwyddyd cynyddodd maint, cylchrediad a dylanwad yr Echo yn sylweddol. Disgwyliai safon broffesiynol uchel gan ei weithwyr a didwylledd llwyr. Rhoddodd gyngor, cefnogaeth a chymorth i newyddiadurwyr pob cenhedlaeth yn eu tro, a daeth nifer ohonynt, fel Percy Cudlipp (gw. uchod) , yn enwau adnabyddus yn Fleet Street yn ddiweddarach. Yn 1946 yr oedd yn un o'r deg golygydd taleithiol a deithiodd drwy Ffrainc ar wahoddiad y Wasg Daleithiol Ffrengig . Etholwyd ef yn gymrawd Sefydliad y Newyddiadurwyr yn 1951 ac ef oedd llywydd y sefydliad ddwy fl. yn ddiweddarach. Yn 1955 etholwyd ef yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr y Western Mail and Echo Ltd. Ymddeolodd yn 1957 ond y flwyddyn ddilynol bu'n swyddog cynorthwyol y wasg yng Ngemau'r Ymerodraeth yng Nghaerdydd , a chafwyd canmoliaeth o bob cwr o'r byd i'r adnoddau a drefnwyd ganddo ar gyfer y wasg bryd hynny. Bu f. 4 Meh. 1960 yn ei gartref, 7 Holmwood Terrace , Cyncoed , Caerdydd , gan adael gweddw, Lucy Helena Stephen .

Llyfryddiaeth:

  • South Wales Echo a The Times , 6 Meh. 1960 ;
  • Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus Aberdâr) .

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth