Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



STEPHENSON , THOMAS ALAN ( 1898 - 1961 ), swolegydd ; g. 19 Ion. 1898 yn Burnham-on-Sea , Gwlad-yr-haf , mab Thomas Stephenson , D.D. , gweinidog (EF.) a'i wraig Margaret Ellen (g. Fletcher ) . Addysgwyd ef yn Clapham ; Wrecsam ; ac Ysgol Kingswood , Caerfaddon , 1909-13 . Yn 1915 derbyniwyd ef i G.P.C. , Aberystwyth (lle y preswyliai'r teulu, 1914-19 ) ond methodd â mynychu'r coleg oherwydd afiechyd. Cafodd wersi preifat gan yr Athro Herbert John Fleure (gw. uchod) a'i penododd yn arddangosydd ac a gafodd iddo anemonïau môr a gasglwyd gan y British Antarctic Expedition yn 1910 i'w hastudio - pwnc ei bapur cyntaf a gyhoeddwyd yn 1916 . Er nad oedd ganddo radd prifysgol, caniatawyd iddo gyflwyno papurau cyhoeddedig ar gyfer gradd M.Sc. a D.Sc. Etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1951 . Yn 1922 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn swoleg yng Ngholeg y Brifysgol , Llundain , a chydweithiodd gyda'i dad yn ystod 1920-24 i gyhoeddi papurau ar degeiriannau Prydain yn Jnl. of Botany . O dan ei ofal ef yr oedd yr adran o'r Great Barrier Reef Expedition 1928-29 a astudiai'r rîff ei hunan ( Reports , cyf. 3), a gwnaeth gyfraniad mawr i'n dealltwriaeth o dyfiant y cwrel sy'n ffurfio rîff. Yn 1930 penodwyd ef yn Athro swoleg ym Mhrifysgol Cape Town , De Affrica . Yno trefnodd arolwg eang o ddosbarthiad planhigion ac anifeiliaid môr ar hyd 1800 milltir o'r arfordir. Yn 1941 daeth yn Athro sŵoleg C.P.C. , Aberystwyth , a gwnaeth astudiaeth arloesol o arfordir gogledd America yn 1947 , 1948 ac 1952 . Yr oedd yn ddarlithydd cymeradwy ac y mae'r sylw a gymerai o gynllun a lliw mewn natur ynghyd â'i dalent gynhenid yn amlwg yn ei ddarluniau eglurhaol i'w ddwy gyfrol The British sea anemones ( 1928 , 1935 ), a Seashore life and pattern ( 1944 ).

Yn 1922 pr. Anne Wood o Wlad-yr-haf a'r Barri a gydweithiodd yn agos ag ef yn ei ymchwil. Bu f. 3 Ebr. 1961 .

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? ;
  • Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society , 8, 1962 , 137-46;
  • gw. ibid. , 147-8 am lyfryddiaeth ei bapurau cyhoeddedig.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth