Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



STEEGMAN , JOHN EDWARD HORATIO ( 1899 - 1966 ), awdur llyfrau ar gelfyddyd a phensaernïaeth ; g. 10 Rhag. 1899 yn ardal Brentford yn fab hynaf E.J. Steegman , meddyg gyda'r llynges , a Mabel (g. Barnet ) ei wraig. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Clifton , ac yng Ngholeg y Brenin , Caergrawnt lle y graddiodd yn M.A. Bu'n swyddog-cadet yn 1918 ; ac yn ohebydd am gyfnod byr cyn cael ei benodi'n ddarlithydd a thywysydd yn y National Portrait Gallery yn Llundain yn 1925 ; bu'n geidwad cynorthwyol yno o 1929 i 1945 . Rhoddwyd ef ar secondiad i'r Cyngor Prydeinig i weithio yn Sbaen , Portiwgal , Ynys yr Iâ a Phalestina yn ystod Rhyfel Byd II . Ymgartrefodd yng Nghaerdydd wedi ei benodi'n Geidwad Adran Celfyddyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1945 ond gadawodd yn 1952 i fynd yn bennaeth Amgueddfa Celfau Cain ym Montreal , Canada , lle y bu hyd 1959 . Bu galw mawr arno wedi hynny fel darlithydd yng Nghanada , T.U.A. ac Awstralia .

Yn ystod ei gyfnod yn yr Amgueddfa Genedlaethol daeth yr adran gelfyddyd yn ganolfan bwysig i astudio gwaith Richard Wilson ( Bywg ., 1022) , a bu'n gefnogaeth i gelfyddyd gyfoes yng Nghymru . Cyn gadael yr Amgueddfa gwnaeth gatalog o gymynrodd Gwendoline Davies (gw. uchod) . Daeth i Gymru fel arbenigwr ar bortreadau Prydeinig , a'i gyfraniad pennaf i'r Amgueddfa oedd ei arolwg o bortreadau ym mhlasau Cymru . Cyhoeddwyd Survey of portraits in North Wales houses ( 1955 ) wedi iddo adael Cymru , a gorffennwyd arolwg de Cymru gan R.L. Charles a'i gyhoeddi yn 1961 . Cyhoeddodd nifer o erthyglau a llyfrau eraill ar gelfyddyd gan gynnwys Hours in the National Portrait Gallery ( 1928 ) a The artist and the country house ( 1949 ). Yr oedd ef ei hun yn beintiwr dyfrlliw , a'i unig frawd Philip yn beintiwr portreadau . Ni bu'n briod a dychwelodd i fyw yn 9 Sloane Gardens , Llundain , ond bu f. yn Coffinswell , Dyfnaint , 15 Ebr. 1966 . Cafodd O.B.E. yn 1952 .

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? ;
  • gwybodaeth gan A. D. Fraser Jenkins .

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth