Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



STAPLEDON , Syr REGINALD GEORGE ( 1882 - 1960 ), gwyddonydd amaethyddol ; g. 22 Mai 1882 yn Northam , gogledd Dyfnaint , yn fab ieuangaf William a Mary Stapledon . Cafodd ei addysg yn yr United Services College , Westward Ho , a Choleg Emanuel , Caergrawnt , a graddio yn M.A. mewn botaneg yn 1904 . Gweithiodd yn swyddfa fasnachol y teulu yng Nghairo am tua dwy fl., ac ar ôl hynny bu'n ddisgybl am flwyddyn ar fferm fawr yn tyfu ffrwythau yng Nghaint . Yn 1908 aeth yn ei ôl i Gaergrawnt i ddilyn cwrs diploma mewn amaethyddiaeth , a hwn oedd y trobwynt yn ei hanes a'i cyfeiriodd at waith mawr ei fywyd gyda thir glas. Bu'n Athro Botaneg Amaethyddol yng Ngholeg Brenhinol Amaethyddol Cirencester , 1909-12 , ac yn ystod y cyfnod hwn yr amlygodd ei ddiddordeb eithriadol mewn ecoleg tir glas , mewn perthynas, yn arbennig, ag effaith haf sych 1911 ar borfeydd cynhenid y Cotswolds . Fe'i penodwyd yn 1912 yn gynghorydd mewn botaneg amaethyddol dan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd i siroedd cylch coleg Aberystwyth , a dyna ddechrau'i gysylltiad hir ag amaethyddiaeth Cymru . Rhan o'i ddyletswyddau yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf yn y swydd honno fu gwneud arolwg o dir glas gogledd Ceredigion fel rhan o arolwg gyflawn gan Cadwaladr Bryner Jones (gw. uchod) ar amaethyddiaeth, O.T. Jones (gw. uchod) ar ddaeareg, ac R.A. Yapp ar fotaneg. Rhwng 1916 ac 1918 bu'n gyfarwyddwr yr Orsaf Swyddogol i roi Profion ar Hadau , a sefydlwyd yn y cyfnod hwnnw yn Llundain . Yna, yn 1919 , fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyntaf Bridfa Blanhigion Cymru ac yn bennaeth yr Adran Botaneg Amaethyddol a sefydlwyd bryd hynny yng Ngholeg Prifysgol Cymru . Yn y Fridfa rhwng 1919 ac 1942 gyda chydweithwyr ymroddedig o'i ddewis ei hun y cyflawnodd Stapledon waith mawr ei fywyd — gwaith a ddylanwadodd yn ddirfawr ar grefft a gwyddor ac, yn wir, ar athroniaeth tir glas ar bum cyfandir. Yn ystod y blynyddoedd hyn y sefydlwyd Biwröau Amaethyddol yr Ymerodraeth (y Gymanwlad ar ôl hynny) gyda Stapledon yn gyfarwyddwr yr un ar gyfer Tir Glas a Chnydau'r Maes a sefydlwyd yn Aberystwyth yn 1927 . Ef ydoedd cyfarwyddwr y Cahn Hill Improvement Scheme a gychwynnwyd yn 1933 i droi canlyniadau mân arbrofion ar wella tir uchel ar fryndir Ceredigion yn waith ymarferol ar raddfa helaeth ar ran o ystad Hafod Uchtryd yng Nghwmystwyth . Gadawodd Aberystwyth yn 1942 er mwyn canolbwyntio ar ei swydd newydd fel cyfarwyddwr Gorsaf Gwella Tir Glas a sefydlwyd yn Stratford-on-Avon yn 1940 , ac ar ôl ymddeol o'r swydd honno yn 1945 bu'n gynghorydd ac yn un o gyfarwyddwyr Dunn's Farm Seeds Ltd. , Caersallog , tan i lesgedd a byddardod llwyr ei oddiweddyd yn ei flynyddoedd olaf. Nid oes amheuaeth nad Stapledon yn ei gyfnod ydoedd gwyddonydd amaethyddol mwyaf adnabyddus y byd a'r awdurdod pennaf ar dir glas . Dan ei arweiniad eneiniedig ef daeth Bridfa Blanhigion Cymru yn sefydliad ymchwil o'r pwys pennaf ym Mhrydain a thros y môr mewn astudiaethau tir glas a bridio planhigion . Fe'i hanrhydeddwyd â'r C.B.E. yn 1932 , fe'i hurddwyd yn farchog ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (F.R.S.) yn 1939 , a chafodd radd D.Sc. er anrh. gan Brifysgolion Cymru a Nottingham . Enillodd fedal aur Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr , ac ef oedd llywydd y Bedwaredd Gynhadledd Ryngwladol ar Dir Glas a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 1937 . Cyhoeddodd liaws o ysgrifau gwyddonol ac amaethyddol , a golygodd gyfrolau ar dir glas ac ar wella tir . Cyhoeddodd (ymhlith pethau eraill): Grassland, its improvement and management (gyda J.A. Hanley , 1927 ); A tour in Australia and New Zealand: grassland and other studies ( 1928 ); The hill lands of Britain: development or decay? ( 1937 ); The plough-up: policy and ley farming ( 1941 ); Make fruitful the land: a policy for agriculture ( 1941 ); The way of the land ( 1943 ); Disraeli and the new age ( 1943 ). Ond, yn ddiamau, ei bennaf camp ydoedd ei lyfr The land now and tomorrow ( 1935 ).

Pr., 1913 , Doris Wood Bourne , ond ni fu iddynt blant. Bu f. yng Nghaerfaddon 16 Medi 1960 , a chynhaliwyd gwasanaeth coffa amdano ym Mridfa Blanhigion Cymru , ger Aberystwyth . Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Goffa Stapledon i alluogi gwyddonwyr amaethyddol ieuainc o'r naill wlad i wneud gwaith ymchwil mewn gwlad arall o'r Gymanwlad .

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth bersonol;
  • Who's who? ;
  • Journal of the British Grassland Society , 15 Ebr. 1960 ;
  • Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society , 7, 1961 ;
  • Robert Waller , Prophet of the New Age. The life and thought of Sir George Stapledon, F.R.S. , Llundain, 1962 ( 1962 ).

Awdur:

Llywelyn Phillips (1914-81), Aberystwyth