Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SOUTHALL , REGINALD BRADBURY ( 1900 - 1965 ), cyfarwyddwr purfa olew ; g. yn Bollington , swydd Caer , 5 Meh. 1900 , yn fab i'r Parchg. George Henry Southall a Harriette ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol West Monmouth . Ar ôl treulio ychydig flynyddoedd yn y diwydiant dur , aeth i weithio yn labordy'r Purfeydd Olew Cenedlaethol , ( Purfa Olew Brydeinig (Llandarcy), Cyf. , yn ddiweddarach), pan ddechreuwyd defnyddio'r burfa yn Llandarcy yn 1921 ac yno yr arhosodd ar wahân i ysbeidiau byr dramor. Tyfodd y burfa i fod yr ail fwyaf a feddai'r cwmni yn y Deyrnas Unedig , a daeth Reginald Bradbury Southall yn rheolwr y gwaith yn 1942 , ac yn gyfarwyddwr yn 1950 . Yn 1960 daeth hefyd yn gyfarwyddwr British Hydrocarbon Chemicals Ltd. a ddefnyddiai olew Llandarcy yn y gwaith ym Mae Baglan . Yr oedd yn gynghorwr doeth a weithiodd yn ddygn dros gymdeithasau diwydiannol Cymru fel aelod o Fwrdd Rhanbarthol Cymru dros Ddiwydiant , cyfarwyddwr Corfforaeth Datblygu Cymru , 1958-64 , cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Dŵr Cymru , ac aelod o Fwrdd Dociau Trafnidiaeth Brydeinig , 1963-65 . Cynrychiolodd y Deyrnas Unedig yn Swyddfa Lafur Ryngwladol y Pwyllgor Diwydiant Olew o'r cychwyn yn 1947 hyd 1960 .

Daeth yn ynad heddwch yn 1954 a bu'n llywydd Siambr Fasnach Abertawe , 1958-59 . Cymerai ddiddordeb dwfn mewn addysg wyddonol a chyhoeddodd amryw erthyglau . Bu'n is-lywydd Coleg y Brifysgol , Abertawe , 1956-64 , ac yn llywodraethwr Coleg Technoleg Uwch Cymru . Gwasanaethodd ar bwyllgor Robbins ar addysg uwchradd , 1961-63 , a daeth yn aelod o'r Cyngor Hyfforddi Canolog newydd yn 1964 . Yn 1956 etholwyd ef yn gadeirydd cyntaf Amgueddfa Diwydiant De Cymru . Gwnaed ef yn C.B.E. yn 1953 am ei waith cyhoeddus, a gradd LL.D. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1962 . Yn 1925 pr. â Phyllis May Hemming . Bu iddynt un ferch a gwnaethant eu cartref yn The Meadows , Llandeilo Ferwallt , ger Abertawe . Bu f. 1 Rhag. 1965 .

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? ;
  • The Times , 2 Rhag. 1965 , 18f.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth