SOULSBY, Syr LLEWELLYN THOMAS GORDON (1885 - 1966), pensaer llongau

Enw: Llewellyn Thomas Gordon Soulsby
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1966
Priod: Margaret Soulsby (née Dickinson)
Rhiant: James C. Soulsby
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer llongau
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn Abertawe, 24 Ionawr 1885, yn fab i James C. Soulsby, mesurydd morwrol. Addysgwyd ef yn Jarrow-on-Tyne a phrentisiwyd ef yno yn bensaer llongau gyda chwmni Palmers. Ar ôl gweithio am gyfnod gyda John Thornycroft a'r Cwmni yn Chiswick, a arbenigai mewn gwneud llongau rhyfel i'r llynges, dychwelodd i Jarrow am bum mlynedd. Priododd yn 1911 â Margaret Dickinson; ni fu iddynt blant. Cychwynnodd ar ei yrfa hir a nodedig yn y diwydiant atgyweirio llongau yn 1912 pan aeth i Gaerdydd yn rheolwr cynorthwyol i'r Cardiff Channel Dry Docks and Pontoon Co. Yn 1919 aeth i Gasnewydd yn rheolwr C.H. Bailey Cyf., gan ddychwelyd i Gaerdydd yn 1928 i fod yn rheolwr dros holl weithfeydd y Channel Co. yng Nghaerdydd, Casnewydd, Y Barri ac Avonmouth, nes i'r cwmni uno â chwmni Mountstuart 3 blynedd yn ddiweddarach. Wedyn daeth yn rheolwr cyffredinol, ac yn ddiweddarach yn gadeirydd (1947), y cwmni newydd, Mountstuart Dry Docks Ltd. gan ymddeol yn 1961. Bu hefyd yn gadeirydd Stothert a Pitt Cyf., 1946-59, a bu'n flaenllaw gyda nifer o gymdeithasau cysylltiedig â'i waith. Yn ystod Rhyfel Byd II penodwyd ef gan y Morlys i swydd bwysig fel cyfarwyddwr rhanbarthol y diwydiant gwneud ac atgyweirio llongau masnach o gwmpas Môr Hafren a gogledd-orllewin Lloegr, 1941-47, a gwnaed ef yn farchog yn 1944 am ei wasanaeth clodwiw. Bu farw yn ei gartref, 77 Roath Court Road, Caerdydd, 9 Ionawr 1966.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.