SMITH, WILLIAM HENRY (BILL; 1894 - 1968) llywydd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru

Enw: William Henry Smith
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1968
Priod: Elsie Smith (née Allan)
Rhiant: Eliza Smith
Rhiant: William Henry Smith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llywydd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 9 Hydref 1894, yr hynaf o dri o feibion William Henry ac Eliza Smith, Caerdydd. Mynychodd ysgol Albany Road cyn mynd yn brentis mewn siop ddillad. Dechreuodd astudio mewn dosbarthiadau nos yn y coleg technegol i ymbaratoi ar gyfer gyrfa yn y gyfraith ond ar ôl gwasanaethu yn y fyddin yn Rhyfel Byd I ymunodd â chwmni ceir modur yn Llundain. Yn 1932, cychwynnodd ef a David Bernard Morgan fusnes llewyrchus, Moduron Morsmith Cyf., yng Nghaerdydd, a llanwodd swyddi pwysig yn y fasnach foduron. Er iddo roi cefnogaeth werthfawr i chwaraeon lleol, Urdd Dramodwyr Cymru, Ymddiriedolaeth Theatr Newydd Caerdydd ac i Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd, am ei wasanaeth arbennig i fiwsig y cofir ef. Yn ystod yr 1920au, wedi iddo ymweld â La Scala, Milan, pryd y deffrowyd ei ddiddordeb mewn opera, daeth yn ysgrifennydd Cymdeithas Opera Caerdydd. Yn 1946 y cynhaliodd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru ei dymor cyntaf yng Nghaerdydd, a phan ffurfiwyd bwrdd rheoli ddwy flynedd yn ddiweddarach dewiswyd ef yn gadeirydd iddo, swydd a ddaliodd am ugain mlynedd. Ar y cychwyn âi'r corws i ymarfer uwchben ei ystafell arddangos ceir. Wedi iddo lwyddo i gael gwahoddiad buan i'r cwmni i ymddangos yn Sadler's Wells, denodd lawer o ddilynwyr selog i'r opera yng Nghymru, cafodd gan Gyngor y Celfyddydau gynyddu'r grant gymaint â dengwaith, a darbwyllodd ddynion busnes ac yn agos i 60 o awdurdodau lleol i gefnogi'r cwmni. Cafodd y C.B.E. yn 1953 am ei waith, a gradd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1961. Ychydig cyn ei farw ar 9 Mehefin 1968 penodwyd ef yn llywydd cyntaf y cwmni opera. Priododd ag Elsie Allan yn 1924.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.