SLINGSBY-JENKINS
,
THOMAS DAVID
(
1872
-
1955
),
ysgrifennydd cwmni llongau a dyngarwr
;
g.
25 Rhag. 1872
, yn fab hynaf i
Evan
Jenkins
,
Bodhyfryd
,
Stryd-y-bont
,
Aberystwyth
, a
Mary
ei wraig ond pan oedd yn ddwyflwydd oed collwyd ei dad
ar y môr
. Mynychodd
ysgol ramadeg Jasper House
a dechrau
gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr
yn y dref cyn
ymuno â chwmni llongau
Mathias a'i Fab
yng
Nghaerdydd
lle y daeth yn
ysgrifennydd y cwmni
. Bu'n
aelod o fwrdd
Cymdeithas Morwyr Prydain
a rhoddodd yn hael tuag at y gymdeithas. Âi ei waith ag ef yn aml i'r
Eidal
lle y rhoddwyd iddo
dlws
yn
1940
gan frenin y wlad honno am feithrin cyfeillgarwch rhwng yr
Eidal
a
Phrydain
. Ond ni chollodd gysylltiad â'i sir enedigol. Bu'n
ustus
a
siryf
sir Aberteifi
, ac yn
aelod o lys llywodraethwyr a chyngor
C.P.C.
,
Aberystwyth
. Cyflwynodd i'r coleg gerflun efydd o
Ddug Windsor
fel
Tywysog Cymru
, gwaith
Mario
Rutelli
a'r unig gerflun mawr a wnaed o'r tywysog, a
gwaddol i sefydlu ysgoloriaeth i ddysgyblion lleol
. Bu ar
lys a chyngor y Llyfrgell Genedlaethol
ac yn
noddwr hael
iddi hithau hefyd. Ef a roddodd y cerflun marmor o
Syr
John
Williams
(
Bywg.
, 991-2)
i'r
Llyfrgell
, y gofeb ryfel efydd i
Eglwys y Tabernacl (MC)
,
Aberystwyth
, gan ddymuno i'r arian a gasglwyd gan aelodau'r Eglwys at y gofeb gael ei drosglwyddo i ysbyty'r dref i
agor ward plant
yno a bu ynglŷn â'r gofeb ryfel i dref
Aberystwyth
(y rhain eto o waith
Rutelli
). Gwasanaethodd
Gymd. Cymmr. Llundain
fel
trysorydd
(
1934-49
) ac
is-lywydd
, gan gyfrannu llawer tuag at gyhoeddi'r
Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940
.
Newidiodd ei enw i
Slingsby-Jenkins
pan br. (1),
c.
1937
, â
Roma Beatrice Evlyn Marie
Slingsby
(a fu f.
7 Chwef. 1948
), a gwnaethant eu cartref yn
9 Victoria Square
,
Llundain
a
Phontarfynach
. Pr. (2) yn yr
Eidal
ychydig wythnosau cyn ei f. â
Margherita
Vita
, wyres cyfaill iddo, a bu f. yn ei chartref yn
Imperia
,
5 Ebr. 1955
.
Llyfryddiaeth:
-
Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y
Cymmrodorion
,
1955
;
-
Adroddiad Tabernacl (MC), Aberystwyth
,
1929
,
1921
, 29;
-
Calendar of grants and probate
,
1948
ac
1955
;
-
The Welsh Gazette
,
7 Ebr. 1955
.
Awdur:
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth