SKAIFE, Syr ERIC OMMANNEY (1884 - 1956), brigadydd a noddwr diwylliant Cymru

Enw: Eric Ommanney Skaife
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1956
Rhiant: Josephine Skaife
Rhiant: Frederic Skaife
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brigadydd a noddwr diwylliant Cymru
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Milwrol; Dyngarwch
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 18 Hydref 1884, yn fab i Frederic a Josephine Skaife, Chichester, Sussex; addysgwyd ef yng Ngholeg Caer-wynt, a Sandhurst. Ymunodd â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fel is-lifftenant yn 1903. Gwasanaethodd yn Ffrainc yn Rhyfel Byd I a bu'n garcharor yn yr Almaen, lle y dechreuodd ddysgu Cymraeg a pherffeithio ei Rwsieg. Dychafwyd ef yn uch-gapten yn 1918 a gwasanaethodd yn y Swyddfa Ryfel ac yn Waziristan cyn dychwelyd yn gyrnol gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn 1929. Bu'n gynrychiolydd milwrol i'r llysgenhadaeth ym Moscow, 1934-37, ac wedyn yn gadlywydd y Brigâd Cymreig yn y fyddin diriogaethol, cyn ymuno ag adran ymchwil y Swyddfa Dramor, 1941-44. Ef oedd awdur A short history of the Royal Welch Fusiliers (1924). Ymddeolodd i blas Crogen, Meirionnydd, cyn ymsefydlu yn Nolserau, Dolgellau. Yr oedd yn eisteddfodwr selog a chymerai ddiddordeb dwfn yn niwylliant y genedl Gymreig. Derbyniwyd ef yn dderwydd yng Ngorsedd y Beirdd wrth yr enw ' Gwas Derfel ' ac etholwyd ef yn is-lywydd Urdd Gobaith Cymru yn 1942. Yn 1946 cyflwynodd bum telyn, a enwyd yn 'delynau Crogen', i Urdd Gobaith Cymru a defnyddiwyd hwy i gynorthwyo telynorion ieuainc i ddysgu eu crefft. Yr oedd ei feistrolaeth ar yr iaith Gymraeg yn gyfryw fel nad oedd raid iddo fritho'i anerchiadau â geiriau Saesneg. Eto, nid oedd yn ymadroddwr rhugl ac yr oedd acen Seisnig ar ei Gymraeg yn amlwg. Prynai bob llyfr a chylchgrawn Cymraeg fel yr ymddangosent a chasglodd lyfrgell helaeth. Yr oedd yn aelod o gorff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Bu'n gadeirydd Cymdeithas Geidwadol Meirion, yn ddirprwy raglaw'r sir, ac yn siryf yn 1956, y flwyddyn yr urddwyd ef yn farchog. Ni bu'n briod. Bu farw 1 Hydref 1956 yn Largos yn yr Alban pan oedd yn cynrychioli'r Eisteddfod a'r Orsedd yn y Mod. Ar garreg ei fedd ym mynwent eglwys S. Marc, Brithdir, y mae'r cwpled ' Yng Nghymru yr oedd fy nghalon,/Yn ei thir hi mae fy ngweddillion '.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.