Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SIMON , JOHN ALLSEBROOK , yr IS-IARLL SIMON o Stackpole Elidor cyntaf ( 1873 - 1954 ), barnwr a gwleidydd ; g. 28 Chwef. 1873 ym Manceinion , yn fab i Edwin Simon , gweinidog (A) o Stackpole, Penf. , a Fanny (g. Allsebrook ) ei wraig. Addysgwyd ef yng Ngholeg Fettes , Caeredin a Choleg Wadham , Rhydychen . Ar ôl graddio yn y clasuron yn 1896 etholwyd ef yn Gymrawd Coleg yr Holl Eneidiau , Rhydychen . Yn 1898 enillodd Ysgoloriaeth Gyfraith Barstow a galwyd ef i'r Bar gan y Deml Fewnol y flwyddyn ddilynol. A chanddo feddwl trefnus, cof eithriadol, a gallu diguro i'w fynegi ei hun, penodwyd ef yn farnwr ar y Gylchdaith Orllewinol mor gynnar ag 1908 ; ond ei uchelgais oedd bod yn wleidydd . Yn 1906 etholwyd ef yn A.S. (Rh.) Walthamstow , Essex , ac ni fu fawr o dro cyn dod yn aelod o'r cabinet a gwnaed ef yn Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cartref ( 1915-16 ) ond ymddiswyddodd am y gwrthwynebai orfodaeth filwrol . Dychwelodd fel A.S. Dyffryn Spen , 1922-40 . Cyfrannodd araith o'i eiddo yn Nhŷ'r Cyffredin yn sylweddol at fethiant streic y glowyr yn 1926 . Nid oedd llewyrch ar ei gyfnod fel Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor o 1931 hyd 1935 , ond bu'n fwy llwyddiannus yn ei ail dymor fel Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cartref , 1935-37 , cyn bod yn Ganghellor y Trysorlys , 1937-40 . Gwasanaethodd ar nifer o gomisiynau'r llywodraeth, ac ef oedd cadeirydd Comisiwn Statudol yr India , 1927-30 , a gynhyrchodd adroddiad nodedig ar weithrediad deddf 1919 ynglŷn â llywodraeth yr India . Yn 1940 dyrchafwyd ef i Dŷ'r Arglwyddi a daeth yn Arglwydd Ganghellor , swydd a lanwodd gyda chlod mawr. Daeth llawer o'i ddyfarniadau dilynol yn fodelau o ddehongliadau eglur a thrylwyr o'r gyfraith. Pr. (1), 1899 , Ethel Mary Venables (bu f. 1902 ) a bu iddynt fab a dwy ferch; (2), 1917 , Kathleen Manning (g. Harvey ) ; bu ef f. 11 Ion. 1954 . Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir ei hunangofiant, Retrospect ( 1952 ), ac Income Tax (5 cyf., 1950 ).

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? ;
  • Y Cymro , 13 Meh. 1952 ;
  • The Times a'r Western Mail , 12 Ion. 1954 ;
  • Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus Aberdâr) .

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth