SEAGER
,
GEORGE LEIGHTON
(
1896
-
1963
;
BARWN LEIGHTON o Laneirwg (St. Mellons)
,
1962
),
masnachwr a pherchennog llongau
;
g.
11 Ion. 1896
yn fab ieuangaf
Syr
William Henry
Seager
(
sylfaenydd cwmni llongau
W.H. Seager
) a
Margaret Annie
(g.
Elliot
)
ei wraig,
Lynwood
,
Caerdydd
, a brawd
John Elliot
Seager
(gw. isod)
. Ar ôl gadael
Coleg y Frenhines
,
Taunton
, yn 16 oed aeth ar daith i
Dde America
ac ar y Cyfandir. Ar ddechrau
Rhyfel Byd I
cafodd gomisiwn gyda'r
Artists' Rifles
(
catrawd Llundain
) ac wedi hynny gwnaeth wasanaeth gwirfoddol gyda'r
Weinyddiaeth Fwyd
. Dychwelodd i
Gymru
i gynorthwyo'i dad a'i frawd hynaf ym musnesau niferus y teulu. Rhoddodd sylw arbennig i'r adran longau ac ni fu fawr o dro cyn cael ei ystyried yn arbenigwr yn y maes. Yn
1929
bu'n
gynghorwr masnachol i'r Llywodraeth
pan aeth gyda dirprwyaeth i
Ganada
. Daeth yn
gyfarwyddwr llawer iawn o gwmnïau
ac yn
gadeirydd
Cymdeithas Perchnogion Llongau Môr Hafren
,
Siambr Masnach Fôr y Deyrnas Unedig
, yn ogystal ag
amryw bwyllgorau yn ymwneud â diweithdra
yng
Nghaerdydd
. Bu hefyd yn
llywydd
Siambr Fasnach Caerdydd
. Bu'n
hael a gweithgar gyda chymdeithasau elusennol
, yn enwedig rhai er bydd addysg ac iechyd
morwyr
. Gwasanaethodd fel
Y.H.
dros
sir Fynwy
ac ef oedd
Is-lifftenant y sir
o
1957
hyd ei farw. Urddwyd ef yn
farchog
yn
1938
, gwnaed ef yn
farwnig
yn
1957
ac yn
farwn
yn
1962
. Pr. yn
1921
â
Marjorie
, merch
William Henry
Gimson
,
Brych.
, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu'n byw yn
Marley Lodge
,
Llaneirwg
a bu f.
17 Hyd. 1963
.
Llyfryddiaeth:
-
Debrett's Peerage, Baronetage, Knightage,
and Companionage
, 1952
,
1962
, 775;
-
Who was who?
;
-
Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price
(yn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus
Aberdâr)
;
-
The Times
,
18 a 25 Hyd. 1963
.
Awdur:
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth