SAMUEL
,
HOWEL WALTER
(
1881
-
1953
),
barnwr a gwleidydd
;
g.
1881
yn
Fforest-fach
,
Abertawe
, yn fab i
Thomas
Samuel
,
gweithiwr tun
yng ngwaith
Cwmbwrla
. Gadawodd
ysgol y Cocyd
yn 11 oed i weithio yng
nglofa Charles
,
Fforest-fach
. Cafodd ddamwain ac
anafu un goes
yn
1906
a bu'n
gloff
ac effeithiwyd ar ei iechyd weddill ei oes. Y ddamwain hon a newidiodd gwrs ei fywyd, gan iddo fagu blas at ddarllen yn ystod y misoedd y bu'n orweiddiog. Wedi ailddechrau gweithio aeth i
bwll Garngoch 3
lle yr oedd
David Rhys
Grenfell
(
aelod seneddol
Gwyr
yn ddiweddarach) yn gydymaith iddo. Cymerodd
ddiddordeb mewn gweithgareddau sosialaidd
a bu'n
un o ysgrifenyddion
Cymdeithas Lafur Abertawe
.
Mewn
ysgol wyliau sosialaidd
yn
Caister-on-sea
cyfarfu â
Harriott Sawyer
Polkinghorne
,
ysgolfeistres
yn
Llundain
. Pr. hwy yn
1911
a bu hi'n symbylydd cryf iddo gyda'i astudiaethau yn y gyfraith a gwelodd ffrwyth ei hymdrechion pan
alwyd ef i'r Bar
yn y
Deml Ganol
yn
1915
. Cafodd weld ei godi'n
K.C.
yn
1931
, yn
gofiadur
Merthyr Tudful
(
1930-33
) ac yn
farnwr
ar
gylchdaith canolbarth Cymru
i ddilyn
Ivor
Bowen
(
Bywg.
, 41-2)
yn
1933
. Oherwydd y dyrchafiad olaf hwn bu rhaid iddynt symud i fyw i
Landrindod
. Yn y cyfamser daeth yn
aelod seneddol Llafur
cyntaf dros etholaeth
gorllewin Abertawe
gan drechu
Syr
Alfred
Mond
o 115 pleidlais yn
Rhag. 1923
, ond collodd y sedd i
Walter
Runciman
yn
Hyd. 1924
, ei chael eto ym mis
Mai 1929
, a'i cholli eto o fwy na chwe mil i
Lewis
Jones
(gw. uchod)
yn
Hyd. 1931
. Tyfodd i fod yn un o
fargyfreithwyr
blaenaf ei gyfnod yng
Nghymru
. Bu'n
amlwg gydag achosion iawndâl i weithwyr
a bu'n
gadeirydd
tribiwnlys gwrthwynebwyr cydwybodol yn ne Cymru
am rai blynyddoedd. Yr oedd yn alluog a dewr iawn, a chanddo'r ddawn i wneud cyfeillion ym mhob cylch.
Bu ei wraig f. yn
Abertawe
,
19 Awst 1939
, a phr. (2) yn
Llandrindod
24 Ebr. 1941
ag
Annie Gwladys
, gweddw
Syr
Henry
Gregg
a merch
David Morlais
Samuel
,
Abertawe
. Yr oedd hi'n aelod o
Orsedd y Beirdd
wrth yr enw '
Morlaisa
'. Bu ef f.
5 Ebr. 1953
.
Llyfryddiaeth:
-
Who was who?
;
-
The Times
,
7 Ebr. 1953
;
-
Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price
(yn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus
Aberdâr)
.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth
Awdur:
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth