SALTER DAVIES, ERNEST (1872 - 1955), addysgydd

Enw: Ernest Salter Davies
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1955
Priod: Evelyn May Salter Davies (née Lile)
Rhiant: Emma Rebecca Davies
Rhiant: Thomas Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgydd
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 25 Hydref 1872 yn fab i Thomas Davies, gweinidog (B) a llywydd Coleg y Bedyddwyr, a'i wraig Emma Rebecca, Hwlffordd, Penfro. Mynychodd ysgol ramadeg Hwlffordd, a Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a chael ysgoloriaeth yn y clasuron i Goleg Iesu, Rhydychen. Am gyfnod maith bu'n drefnydd ac arweinydd blaenllaw ym myd addysg yn Lloegr. Cychwynnodd ar ei yrfa fel athro yn Academi Glasgow, 1895-96, ac wedyn bu yn ysgol ramadeg Cheltenham nes cael ei benodi'n arolygwr addysg uwch yn swydd Caint yn 1904 a'i ddychafu'n gyfarwyddwr addysg y sir honno yn 1918, swydd a lanwodd gydag anrhydedd hyd nes iddo ymddeol yn 1938. At hyn, bu'n gynghorydd addysg i'r fyddin yn 1918 a charchar Maidstone o 1923 hyd 1938 ac etholwyd ef yn llywydd nifer o gymdeithasau addysg a llyfrgelloedd. Cydnabuwyd ei wasanaeth trwy ei wneud yn C.B.E. yn 1932 a derbyniodd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Adelaide yn 1937.

Hyd yn oed wedi iddo ymddeol yn swyddogol parhaodd i fod yn weithgar a dylanwadol ym myd addysg. Gwasanaethodd fel aelod o'r pwyllgor ar Addysg Amaethyddol Uwch i'r Weinyddiaeth Amaeth yn 1940 ac ar Gyngor Canolog Darlledu i Ysgolion hyd 1948, gan fod yn gadeirydd ei Bwyllgor Ysgolion Gwledig. Bu'n gadeirydd llawer o gyrff eraill gan gynnwys Ymddiriedolaeth Carnegie yn y Deyrnas Unedig (1946-51), y bu'n ymddiriedolwr oes iddi er 1924.

Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir The Aim of Education (National Adult School Union); The Reorganisation of Education in England (New Education Fellowship); Education for Industry and for Life; Technical Education (The Schools of England), a golygodd Kenilworth a The Fortunes of Nigel gan Scott ar gyfer ysgolion. Fel golygydd y Journal of Education, cynhaliodd enw da'r papur hwnnw o 1939 hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth yn 83 mlwydd oed.

Priododd, 1900, Evelyn May Lile (marw 1951) o Ddinbych-y-pysgod a bu iddynt ddau fab. Bu farw 10 Mehefin 1955 yn ei gartref yn 13 Chichester Road, East Croydon, Surrey.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.