Yn 1915 penderfynodd ei chyflwyno'i hun yn gyfan gwbl i'r maes cenhadol. Yn y Gymanfa Gyffredinol yn Llundain ym Meh. 1915 fe'i derbyniwyd yn genhades . Dilynodd gwrs o hyfforddiant yng Ngholeg St. Colm , Caeredin , ac ar 23 Hyd. 1916 , hwyliodd o Lerpwl a glanio yn Calcutta ar 28 Tach. Am 10 ml. bu'n gwasanaethu yn nosbarth Sylhet ar wastadeddau Khasia a Jaintia , lle'r oedd cyfundrefn caste yr Hindwiaid mewn grym a pharch i'r ferch yn isel. Erbyn Ebr. 1918 fe'i dyrchafwyd yn brifathrawes The Williams Memorial School i enethod a daeth yn rhugl yn Bengaleg . Dangosai allu anarferol fel athrawes a meddai ar ddawn trefnu. Penderfynodd ei huniaethu ei hun â'r brodorion gan fabwysiadu eu gwisg, eu harferion a'u bwyd. Ymwelai'n gyson â'i Zenanas . Pregethai yn y Fengaleg a dysgai'r merched i wau a gwnïo . Llewyrchai'r ysgol Sul o dan ei gofal. Yn 1927 aeth i Maulvi Bazaar gan aros yno am 2 fl. Fe'i gwahoddwyd i fod yn brifathrawes ar ysgol iaith yn Darjeeling o dan nawdd Cyngor Cristionogol Bengal ac Assam . Pan ymwelodd Gandhi â'r ysgol rhyfeddodd at ei meistrolaeth o'r iaith. Yn sgil ei disgleirdeb ieithyddol fe'i rhyddhawyd i astudio am radd M.A. ym Mhrifysgol Calcutta . Dyfarnwyd iddi'r radd yn y dosbarth I gyda gwobr y Brifysgol (gwerth £200 o lyfrau) a medal aur am ragori ym mhob testun . Hi oedd y myfyriwr disgleiriaf. Arhosodd yn yr ysgol iaith o 1925 hyd 1931 .
Dychwelodd i Gymru ar furlough yn 1930 ac ymaelodi yn y Sorbonne ym Mharis i weithio am ddoethuriaeth. Ar bwys rhagoriaeth ei gradd M.A. a chymeradwyaeth arbennig yr Athro S.K. Chatterji , Calcutta , caniatawyd iddi gyflwyno ei thesis yn ystod y flwyddyn. Meddai ef amdani, ‘ She is equipped for the work in a way which few foreigners can expect to be ’. Enillodd D.Litt. (Paris) ar y testun ‘ La Femme Bengalie dans la littérature du Moyenage ’. Mae copi o'r traethawd yn llyfrgell Coleg y Brifysgol , Bangor . Cynigiwyd iddi gadeiriau Bengaleg gan brifysgolion ym Mhrydain , America ac India ond eu gwrthod a wnaeth a dychwelyd i Karimganj , Assam , i ddysgu , cyfarwyddo ac efengyleiddio . Derbyniodd swydd athro Saesneg a Bengaleg , er anrhydedd, yng ngholeg Llywodraeth India yn Karimganj . Gyda Dipti Nibash (Annedd Goleuni) y cysylltir ei henw, fodd bynnag, gan mai yno y sefydlodd gartref i ferched gweddwon ac amddifad diymgeledd . Yno y gwnaent jam, brethyn, hancesi, hosanau a thyfu reis heb sôn am drin y tir a chynhyrchu sidan. Hyfforddid y merched i ddefnyddio'r droell ac i fod yn hunan-gynhaliol.
Yr oedd hi'n gefnogol iawn i fudiad eciwmenaidd a amcanai at sefydlu eglwys Bresbyteraidd i India gyfan. Fel Swarajist credai mewn rhyddid a hunan-lywodraeth eglwysig, a llwyddodd i gael gwaith y chwiorydd yn drefniant ar wahân oddi mewn i'r Gymanfa . Cynlluniodd Pracharikas (urdd o efengylwyr ymhlith merched) a gweithredodd fel clerc y Gymanfa am 20 ml. Etholwyd hi'n llywydd Gymanfa'r Gwastadedd . Gohebai'n gyson â'r wasg, ac yn arbennig Y Cenhadwr , Y Goleuad , The Treasury , heb sôn am ei hadroddiadau i'r Genhadaeth Dramor . Cyhoeddodd gylchgrawn Saesneg The Link ar y cyd â'r Parch. Lewis Mendus . Cyfieithodd Reality and religion , Search after reality a Sermons and sayings Sadhu Sundar Singh i Fengaleg , ac ysgrifennodd hanes yr awdur. Cyfansoddodd ddwy ddrama genhadol, Chumdra Hela a Dydd y pethau bychain . Yr oedd yn gyfeillgar â Rabindranath Tagore ac R. Kanta Sen a chyfieithodd rai o'u cerddi i Gymraeg a Saesneg (gw. Y Cenhadwr , Chwef. 1930 ). Bu f. yn ddisyfyd yn Karimganj , 12 Chwef. 1955 , ac yno o flaen y capel mae ei bedd. Enwyd llyfrgell coleg Karimganj yn ‘ Rowlands Hall ’ er cof amdani ac y mae cofeb iddi yng nghapel (MC) Porthaethwy .
Gwilym Arthur Jones, (1925-98), Bangor